Bellamy i chwarae i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Craig BellamyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond pedwar chwaraewr sydd wedi sgorio mwy o goliau dros Gymru na Bellamy

Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Malky Mackay, wedi awgrymu bod Craig Bellamy'n barod i chwarae i Gymru.

Bydd Cymru yn herio Awstria mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Liberty ar Chwefror 6.

Mae'n debyg y bydd yr ymosodwr 33 oed yn rhan o'r garfan fydd yn cael ei henwi gan reolwr y tîm cenedlaethol Chris Coleman ddydd Mercher.

Oherwydd anafiadau nid oedd Bellamy yn chwarae ym mhedair gêm gystadleuol ddiwethaf Cymru wrth iddyn nhw geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014.

'Chwaraewr gwych'

Mae Coleman wedi annog Bellamy i ddweud os yw am barhau i chwarae i'w wlad ond nid yw Bellamy wedi datgan unrhyw benderfyniad hyd yn hyn.

"Byddai'n wych i Chris pe bai Craig yn gallu chwarae oherwydd mae'n chwaraewr gwych ac yn chwarae'n dda ar hyn o bryd," meddai Mackay.

""Fy marn i yw y dylai'r rhai sy'n cael eu dewis i chwarae i'w gwlad fod yn falch o wneud hynny."

Dim ond Ian Rush (28), Trevor Ford (23), Ivor Allchurch (23) a Dean Saunders (22) sydd wedi sgorio mwy o goliau na Bellamy (19) dros Gymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol