Bygwth camau cyfreithiol?
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni merch sy'n fyddar yn bygwth cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cyngor sir am beidio â chyflogi cyfieithydd iaith arwyddo ar ei chyfer yn y Gymraeg.
Penderfynodd John a Caryl Clarke beidio ag anfon eu merch Hafwen i Ysgol Penrhyn-coch ger Aberystwyth ym mis Hydref ar ôl i gyfieithydd Hafwen adael yr ysgol.
Dywedodd Cyngor Ceredigion nad oeddent wedi llwyddo i ddarganfod cyfieithydd arall hyd yn hyn ond eu bod yn dal i chwilio am un.
Mae Mr a Mrs Clarke yn honni bod y cyngor sir yn torri nifer o ddeddfau gan ddweud bod gan yr awdurdod lleol tan Fawrth 29 i ganfod cyfieithydd addas arall.
'Trefn tymor byr'
Maen nhw'n honni bod y cyngor sir yn torri'r Ddeddf Addysg, datganiad anghenion addysgol arbennig Hafwen, a Deddf yr Iaith Gymraeg gan ychwanegu bod gan eu merch yr hawl i dderbyn addysg Gymraeg yn yr ysgol o'i dewis.
Dechreuodd Hafwen ddefnyddio iaith arwyddo pan oedd hi'n dair blwydd oed a bu'n disgybl yn Ysgol Penrhyn-coch am fwy na phedair blynedd.
Gadawodd ei chynorthwyydd cymorth dysgu (LSA) yr ysgol ym mis Hydref cyn i Hafwen hefyd adael yr un mis.
"Doedd neb yn gallu cyfathrebu â Hafwen wedi i'w chynorthwyydd cymorth dysgu adael felly penderfynon ni beidio ei hanfon i'r ysgol yn rhagor", meddai Mr Clarke, 45 oed.
"Fe wnaeth ei gofalwr ysbeidiol fynychu'r ysgol i iaith arwyddo i Hafwen cyn y Nadolig ond roedd hi dim ond yn gallu gwneud hynny am bythefnos.
"Yr wythnos hon mae Hafwen wedi dechrau mynd i Ysgol Plascrug, Aberystwyth dros dro.
"Mae cynorthwyydd cymorth dysgu yno sy'n iaith arwyddo i ddisgybl byddar arall.
"Mae'r cynorthwyydd yn helpu Hafwen hefyd, ond rydym ar ddeall gall LSA dim ond gwasanaethu un disgybl felly bydd hyn yn drefn tymor byr."
'Talcen caled'
Dywedodd Mr Clarke fod ei ferch yn gallu iaith arwyddo a darllen gwefusau yn Gymraeg a Saesneg ond bod ef a'i wraig am i Hafwen gael addysg Gymraeg.
"Mae ganddi'r hawl i gael addysg Gymraeg a dylai'r un hawliau â phlant eraill fod ar gael iddi," ychwanegodd Mr Clarke, sy'n yrrwr tacsi.
"Rydym yn gwneud ein gorau glas dros ein merch ond rydym wedi bwrw talcen caled."
Dywedodd Cyngor Ceredigion fod Ysgol Penrhyn-coch yn Ysgol Gymraeg a'i fod yn hanfodol bod cynorthwyydd cymorth dysgu Hafwen yn gallu cyfathrebu trwy ddefnyddio iaith arwyddo yn y Gymraeg a Saesneg.
"Er i ni hysbysebu ddwywaith ar gyfer y swydd, gan gynnwys gosod hysbyseb yn y wasg leol, chafwyd hyd i neb oedd yn addas ar gyfer rhoi cymorth i'r disgybl yn Ysgol Penrhyn-coch," dywedodd llefarydd ar ran y cyngor.
Ychwanegodd y llefarydd fod yr ysgol wedi hysbysu Mr a Mrs Clarke am y sefyllfa a bod pawb yn ymwybodol o'r broblem.
"Mae'r awdurdod yn croesawu a chefnogi awgrym y rhieni y dylai'r disgybl fynychu Ysgol Plascrug tan ei fod yn addas iddi ddychwelyd i Ysgol Penrhyn-coch."
"Byddwn yn dal i gydweithio gyda'r ysgol i ddarganfod cynorthwyydd cymorth dysgu addas."