Ymchwilio i 'fethiannau' heddlu
- Cyhoeddwyd
Bydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio methiannau honedig gan Heddlu'r De mewn achos o drais yn y cartref.
Ym mis Awst 2011, aeth menyw o orsaf heddlu yng Nghaerdydd gan ddweud bod ei phartner wedi ymosod arni.
Mae'n ymddangos bod y fenyw wedi cael ei gyrru adref o orsaf heddlu'r Tyllgoed heb i'r heddlu gymryd unrhyw gamau.
Dau ddiwrnod yn ddiweddarach fe ymosododd y dyn ar y fenyw eto, ac fe gafodd ei alw yn ôl i garchar gan ei fod wedi cael ei ryddhau ar drwydded yn flaenorol o ddedfryd arall.
Aeth y fenyw ar ei Haelod Seneddol, ac fe gwynodd yr AS ar ei ran am weithredoedd yr heddlu, ac mae'r mater bellach wedi cael ei gyfeirio at y Comisiwn.
'Pryderon difrifol'
Comisiynydd IPCC yng Nghymru yw Tom Davies, a dywedodd: "Aeth y fenyw yma at yr heddlu wedi i'w phartner ei bygwth.
"Mae'r ffaith ei bod hi a'i phlant wedi cael dychwelyd adref, lle y dioddefodd ymosodiad difrifol yn fuan wedyn, yn codi pryderon difrifol.
"Yr hyn sy'n fwy o bryder yw bod y dyn a gafodd ei ryddhau o garchar ar drwydded â record o drais.
"Byddwn am edrych ar ba gamau a gymrwyd gan yr heddlu, ac os oedd unrhyw adroddiadau cefndir yn ddigonol.
"Mae CCAH hefyd yn bryderus bod y mater yma ond wedi cael ei gyfeirio atom yn dilyn llythyr o gŵyn gan AS, a hynny dros flwyddyn wedi'r digwyddiad gwreiddiol.
"Byddwn hefyd yn ystyried pam na wnaeth Heddlu De Cymru gyfeirio'r mater at IPCC yn llawer cynt.
"Dros y blynyddoedd diweddar, mae IPCC wedi ymchwilio i nifer o achosion o drais yn y cartref yng Nghymru, gan arwain at gynhadledd i Gymru gyfan ar drais yn y cartref yn 2011 er mwyn dysgu gwersi ar draws gwasanaethau'r heddlu ac asiantaethau eraill.
"Byddaf yn ystyried a yw Heddlu De Cymru wedi gweithredu ar y gwersi yna."