'Ergyd drom' i ddyfodol lladd-dy
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na ergyd i'r gobeithion o sicrhau dyfodol lladd-dy yn Sir Fôn ddydd Mercher, wrth i gwsmeriaid mwyaf y safle gyhoeddi na fyddan nhw'n newid eu meddwl am symud at gyflenwyr eraill.
Yn gynharach ym mis Ionawr, cyhoeddodd perchnogion Welsh Country Foods yn Y Gaerwen eu bod wedi colli cytundeb cwsmer allweddol, archfarchnad Asda.
Mae'n golygu fod hyd at 350 o swyddi dan fygythiad ar y safle.
Ddydd Mercher, cadarnhaodd Asda eu bod yn dod â'u cytundeb cyflenwi gyda Welsh Country Foods i ben a'u bod yn symud at gyflenwyr eraill yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin.
Roedd perchnogion y safle, cwmni Vion o'r Iseldiroedd, a Chyngor Sir Ynys Môn wedi gobeithio perswadio Asda i newid eu meddwl.
Siom
Dywedodd yr Aelod Seneddol dros yr ynys, Albert Owen, ei fod yn "hynod siomedig" â'r penderfyni
"Mae penderfyniad Asda yn ergyd drom i Welsh Country Foods a'r gweithlu," meddai.
"Rwy'n credu fod gan Vion ac Asda ymrwymiad i Welsh Country Foods, sy'n cynhyrchu cynnyrch o ansawdd.
"Mae Asda yn agor siopau yn yr ardal ac maent eisiau ymrwymiad gan y gymuned leol, ac yn gyfnewid am hynny fe ddylai'r gymuned gael ymrwymiad ganddyn nhw fel corfforaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Asda:
"Rydym yn gwerthfawrogi pa mor siomedig fydd hyn i Welsh Country Foods ond rydym eisiau sicrhau pobl nad oedd hwn yn benderfyniad hawdd.
"Bydd ein cwsmeriaid yn dal i allu prynu cig oen Cymreig, sy'n cael ei fagu ar ffermydd Cymru a'i brosesu yng Nghymru, gan ein bod yn symud ein busnes i Dunbia, sydd â safle yn Llanybydder."
Ymrwymiad
Wrth ymateb i benderfyniad Asda, dywedodd Jim Dobson, Rheolwr Gyfarwyddwr Dunbia, fod y cwmni wedi buddsoddi'n helaeth yn y diwydiant prosesu cig oen a'u bod yn falch bod Asda yn cydnabod hynny.
"Rydym nawr yn ceisio cael wyn gan bob un o gynhyrchwyr presennol Asda ac rydym yn awyddus i adeiladu ar ein rhestr o gyflenwyr yng Nghymru...Mae Dunbia wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr ac economi Cymru."
Yn y cyfamser, cyhoeddodd undeb ffermwyr NFU Cymru y byddan nhw'n cwrdd â'r Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies, a'r Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones, yn ddiweddarach yn yr wythnos i drafod opsiynau i sicrhau dyfodol y safle yn Y Gaerwen.
Dywedodd llywydd yr undeb, Ed Bailey: "Rydym yn parhau i bwyso ar Vion ynglŷn â phwysigrwydd cynnal Welsh Country Foods nes bod perchennog newydd yn dod i'r fei. Rydym yn gobeithio y bydd y cwmni'n llwyddo i ddenu prif gwsmer arall ac y byddan nhw'n gallu parhau i ddatblygu cytundebau cartre' a thramor gyda chwmnïau eraill.
"Rydym yn cydnabod cefnogaeth Cyngor Môn a Llywodraeth Cymru wrth geisio sicrhau dyfodol y safle ac rydym yn gobeithio y byddan nhw'n parhau i roi cefnogaeth lawn i geisio sicrhau fod y safle'n ddeniadol i unrhyw brynwr posib."ad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012