Cap cyntaf i Coombs
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru, Rob Howley, wedi cyhoeddi'r pymtheg fydd yn dechrau'r gêm yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Roedd llawer o ddyfalu dros y dyddiau diwethaf pwy fyddai'n llenwi'r safleoedd allweddol yn y rheng ôl ac ail reng ac roedd y frwydr am rif 10 wedi cael llawer o sylw gyda James Hook a Dan Biggar yn gobeithio llenwi'r bwlch adawyd oherwydd anaf Rhys Priestland.
Biggar sy' wedi ennill y frwydr arbennig yna ac mae yna un enw newydd i'r tîm ar gyfer dydd Sadwrn.
Bydd clo'r Dreigiau, Andrew Coombs, yn ennill ei gap cyntaf yn erbyn y Gwyddelod ochr yn ochr ag Ian Evans yn yr ail reng tra bod Aaron Shingler a Sam Warburton yn flaenasgellwyr.
'Cyfle gwych'
Dywedodd Howley: "Mae'n gyfle gwych i Andrew (Coombs), sydd wedi bod yn perfformio'n dda ar lefel ranbarthol, i ddangos beth y mae'n gallu ei wneud.
"Fel carfan, rydym wedi gweithio'n galed dros y pythefnos diwethaf ac yn mynd i mewn i'r gêm ddydd Sadwrn yn gyffrous a hyderus i gadw ein coron ni.
"Mae momentwm yn holl bwysig yn y Chwe Gwlad ac rydyn ni'n gwybod fod rhaid i ni ddechrau'n dda yn erbyn Iwerddon."
Mae Cymru wedi curo Iwerddon yn y tair gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm ac mae 10 o'r tîm enillodd y gêm fel rhan o'r Gamp Lawn y tymor diwethaf yn y tîm fydd yn dechrau ddydd Sadwrn.
CYMRU v. IWERDDON; Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd; Ddydd Sadwrn, Chwefror 2; 1:30pm:-
15. Leigh Halfpenny (Gleision);
14. Alex Cuthbert (Gleision); 13. Jonathan Davies (Scarlets); 12. Jamie Roberts (Gleision); 11. George North (Scarlets);
10. Dan Biggar (Gweilch); 9. Mike Phillips (Bayonne);
1. Gethin Jenkins (Toulon); 2. Matthew Rees (Scarlets); 3. Adam Jones (Gweilch);
4. Andrew Coombs (Dreigiau); 5. Ian Evans (Gweilch);
6. Aaron Shingler (Scarlets); 8. Toby Faletau (Dreigiau); 7.Sam Warburton (Gleision - capten).
Eilyddion :- Ken Owens (Scarlets); Paul James (Caerfaddon); Craig Mitchell (Caerwysg); Olly Kohn (Harlequins); Justin Tipuric (Gweilch); Lloyd Williams (Gleision); James Hook (Perpignan); Scott Williams (Scarlets).