Colli 300 o swyddi i arbed £22m
- Cyhoeddwyd
Clywodd cyfarfod o gynghorwyr Caerdydd yn Neuadd y Ddinas nos Iau bod angen i'r Sir dorri 300 o swyddi dros y flwyddyn nesaf er mwyn gwneud arbedion o £22 miliwn.
Bydd angen arbed £110m yn ystod oes y cyngor presennol.
Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway eu bod yn gobeithio osgoi diswyddiadau gorfodol.
Cyhoeddwyd hefyd y bydd treth gyngor yn cael ei rhewi yn y sir y flwyddyn nesaf.
Cyn y cyfarfod roedd cefnogwyr canolfan ferlota yn protestio tu allan i gyfarfod y cyngor.
Roedd bron 30 o weithwyr wedi clywed y gallai'r ganolfan yng Nghaeau Pontcanna gau erbyn Ebrill 1.
Cafodd y cyfarfod ei ohirio am chwarter awr fel y gallai'r cynghorwyr gwrdd â'r protestwyr.
Ond yn y cyfarfod cyhoeddwyd bod y cyngor am drosglwyddo'r ysgol farchogaeth i ofal corff arall, ac y byddan nhw'n cadw'r ysgol ar agor tra bod trafodaethau ar y gweill.
'Gorfodi'
Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid gohirio'r cyfarfod am gyfnod wedi i arweinydd grŵp Plaid Cymru, Neil McEvoy, eu hannerch ynghylch yr ysgol farchogaeth.
"Dwi am i gynghorwyr sy'n gorfodi'r penderfyniad hwn ar bobol gwrdd â'r rhai fydd yn cael eu heffeithio," meddai.
Mae'r ganolfan yn arbenigo mewn rhoi gwersi i blant a phobl anabl a mwy na 600 yn gyffredinol yn mynd yno bob wythnos i gael gwersi.
Mae 13 o weithwyr llawn amser ac 14 o staff rhan amser yn yr ysgol a 50 o geffylau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013