Pryderon cynghorau am ad-drefnu iechyd

  • Cyhoeddwyd
Flint protesters
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr y tu allan i gyfarfod o'r bwrdd iechyd pan gafodd y newidiadau eu cadarnhau y mis diwethaf

Mae arweinwyr cyngor yn Sir Ddinbych wedi mynegi pryderon am effaith ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru.

Mae'n dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gau pedwar ysbyty cymunedol a throsglwyddo gofal dwys i fabanod i ysbyty yn Lloegr.

Bydd prif weithredwyr cynghorau ar draws gogledd Cymru yn cwrdd ag arweinwyr y bwrdd iechyd yn Wrecsam yn ddiweddarach.

Dywedodd y bwrdd na fyddai'n briodol i wneud sylw tan ar ôl y cyfarfod.

Diffyg hyder

Bydd gwasanaethau yn ysbytai Blaenau Ffestiniog, Y Fflint, Llangollen a Phrestatyn yn cael eu trosglwyddo i 10 o safleoedd canolog wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gadarnhau y byddan nhw'n cau.

Dywedodd y bwrdd fod rhaid newid oherwydd yr heriau ddaw yn sgil pwysau ariannol.

Mae'r cynlluniau a gyhoeddwyd fis diwethaf wedi arwain at wrthwynebiad gan y cyhoedd a rhai o'r cynghorau.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth cynghorwyr Conwy ohirio pleidlais o ddiffyg hyder yn y bwrdd, ac mae swyddogion Sir Ddinbych nawr wedi gofyn am eglurhad gan y bwrdd mewn tri maes penodol:

  • Pwy fydd yn talu'r costau ychwanegol am ofal yn y gymuned, a phwy fydd yn monitro'r costau?

  • Beth yw cynlluniau'r bwrdd iechyd i ddelio gyda'r pwysau teithio ychwanegol ar rai trigolion, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad?

  • Beth yw cynlluniau'r bwrdd i gymryd lle'r gwasanaethau fydd yn cau?

Atebion

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Bydd ein prif weithredwr yn y cyfarfod ddydd Gwener er mwyn gofyn am atebion i'r materion yma ac eraill.

"Bydd yn adrodd yn ôl i'n cynghorwyr yr wythnos nesaf.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor Iechyd Cymuned, ac yn gobeithio datblygu ymateb y cyngor mewn ymgynghoriad gyda nhw."

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Bydd y prif weithredwr a chyfarwyddwyr yn cwrdd â phrif weithredwyr awdurdodau lleol i drafod materion yn ymwneud â phenderfyniadau'r bwrdd iechyd.

"Mae'r materion a godwyd gan Gyngor Sir Ddinbych yn debyg i'r rhai sydd eisoes wedi eu codi gan gynghorau eraill.

"Byddai'n amhriodol i wneud sylw ar bryderon Sir Ddinbych na'r lleill tan ar ôl y cyfarfod."

Mae grŵp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad, gan gynnwys un aelod Llafur, wedi galw ar y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths i ymyrryd yn y mater.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol