Llai o arian i'r iaith yng Nghaerdydd?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl y Cyngor mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn gwarchod y gwasanaethau pwysicaf.

Bydd Cyngor Caerdydd yn gorfod gwneud toriadau i nifer o wasanaethau yn y brifddinas wrth iddynt geisio arbed dros £22 miliwn yn eu cyllideb nesa'.

Dros gyfnod y cyngor presennol, bydd angen gwneud arbedion o £110 miliwn.

Fydd 'na ddim newid mewn treth cyngor y flwyddyn nesa' ond mae'r toriadau yn golygu fod 300 o swyddi yn y fantol, yn ogystal â nifer o wasanaethau.

Ymhlith y posibiliadau a amlinellwyd mewn cyfarfod nos Iau, dolen allanol oedd diddymu'r grant i Tafwyl - unig ŵyl Gymraeg y brifddinas - sy'n derbyn £20,000 gan y cyngor ar hyn o bryd.

Gallai cyllid Menter Caerdydd hefyd gael ei dorri 10% - gostyngiad o £10,000.

Mae canolfan gelfyddydau Chapter yn wynebu colli £10,000 - bron i hanner y grant (43%) maen nhw'n ei dderbyn gan y cyngor.

'Poen'

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, sy'n gyfrifol am gyllid cyngor Caerdydd, wrth aelodau'r cabinet: "Dyw pethau ddim yn edrych yn dda. 'Dwi ddim yn mynd i geisio rhoi darlun gwell - 'does 'na ddim dianc rhag y boen."

Wrth gynnig cynlluniau ar gyfer cyllideb 2013-14, dywedodd y byddai rhai gwasanaethau yn gweld toriadau o hyd at 90% erbyn 2021.

Mae nifer o arbedion wedi'u cynnig, gan gynnwys:

  • Torri grantiau i weithgareddau Cymraeg, gan gynnwys Tafwyl;

  • Diddymu'r cymhorthdal ar gyfer gwersi cerdd mewn ysgolion, gan gynnwys nifer o wasanaethau eraill i ysgolion;

  • Cau pwll nofio'r Sblot;

  • Dod ag ymweliadau ag Ynys Echni i ben, a gwerthu'r hafan bywyd gwyllt sydd bum milltir oddi ar arfordir Caerdydd;

  • Gostwng oriau agor rhai llyfrgelloedd;

  • Dod â gŵyl gerddorol Penwythnos Mawr Caerdydd i ben;

  • Cau'r toiledau Fictoraidd yn yr Aes yng nghanol y ddinas.

Twf yn y Gymraeg

Wrth ymateb i'r awgrym y gallai grant Tafwyl gael ei dorri, dywedodd John Albert Evans, sy'n dysgu Cymraeg oedolion yn y brifddinas:

"Beth ydy £20,000 i gyngor Caerdydd pan y'ch chi'n ystyried y diddordeb sydd yn y Gymraeg. Mae ffigurau'r cyfrifiad yn dangos twf yn y Gymraeg yn y rhan yma o'r byd ac roedd yr ŵyl y llynedd yn anhygoel."

Wrth ateb y sylwadau hynny ar raglen y Post Cynta fore Gwener, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros hamdden:

"Mae 'na sawl £20,000 ar draws y cyngor. Y gwir amdani yw bod yn rhaid i ni wneud arbedion o £22 miliwn.

"Mae 'na gynnydd mewn gwariant ar y Gymraeg wedi cael ei gytuno ar gyfer yr iaith yn y byd hamdden.

"Ond beth a gytuniwyd arno hefyd oedd cwtogi grantiau i bob corff allanol o o leia' 10%.

"Ceisio bod yn deg ydyn ni. 'Da ni hefyd yn ceisio amddiffyn pocedi pobl Caerdydd trwy gadw'r treth cyngor heb gynnydd."

Mae'r newyddion yn golygu y bydd yna doriad o £10,000 i ganolfan celfyddydau'r Chapter.

Dywedodd cyfarwyddwr y ganolfan Any Eagle eu bod yn siomedig.

"Byddwn yn apelio yn erbyn y penderfyniad," meddai.

Achubiaeth?

Dywedodd y cyngor nad oeddynt am weld Ysgol Farchogaeth Caerdydd yn cau, fel yr oedd nifer wedi'i ofni.

Yn hytrach, dywedon nhw eu bod yn chwilio am reolwyr newydd ar gyfer y safle 30-erw ym Mhontcanna.

Roedd staff yr ysgol farchogaeth, a fu'n protestio'r tu allan i'r cyfarfod nos Iau, yn honni iddynt dderbyn llythyrau'n dweud y byddai'r ysgol yn cau ar Ebrill 1.

Dywedodd cynghorwyr ar ran y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol y byddan nhw'n disgwyl i weld mwy o fanylion cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am y cynlluniau.

Ond roedd yna feirniadaeth o ACau Ceidwadol yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Maen nhw'n beirniadu'r Cyngor am benodi 11 o gyfarwyddwyr newydd.

"Gall hyd 350 golli swydd, a gwahanol sefydliadau yn wynebu toriadau ariannol. Tra bod 11 o uwch swyddogion yn ennill bron cymaint o gyflog a'r prif weinidog," meddai Janet Finch-Saunders AC, llefarydd y blaid ar lywodraeth leol.

"Mae yna wrthgyferbyniad enfawr - dyw e ddim yn gwneud synnwyr.

"Mae'n amhosib deall sut y gallai Llafur gyfiawnhau'r swyddi newydd, yn enwedig yr amser hwn.

Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, Neil McEvoy, fod y cynigion yn cael eu gwneud gan "gyngor Llafur asgell-dde" oedd yn ddim mwy na "Cheidwadwyr coch".

Bydd y gyllideb yn cael ei hystyried mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ddiwedd mis Chwefror.