Anlwc yn arwain at drasiedi
- Cyhoeddwyd
Mae'r achos yn erbyn y ddau o lofruddiodd y llanc Aamir Siddiqi wedi datgelu byd o ddrwgweithredu yn rhai o faestrefi llewyrchus Caerdydd.
Nid yw cyffuriau, trais na thalu pobl i ladd eraill yn rhan o fywydau pob dydd y mwyafrif, ond mae'r achos llofruddiaeth yma wedi dangos y gall ddod yn rhan o fywydau pawb gyda chanlyniadau erchyll.
Cafodd Ben Hope a Jason Richards eu talu i ladd dyn am ddim byd mwy na chytundeb i brynu tŷ oedd wedi mynd o'i le.
Fe fyddai Mohammed Tanhai fwy na thebyg wedi marw erbyn heddiw pe bai'r ddau wedi mynd i'r cyfeiriad cywir, a chyn y digwyddiad roedd Mr Tanhai wedi bod yn byw mewn ofn.
Glanhau arian cyffuriau
Roedd y dyn a dalodd Hope a Richards i'w ladd - na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol - wedi cynnig arian i Mr Tanhai i dynnu'r tŷ oddi ar y farchnad.
Mesur dros dro oedd hynny'n wreiddiol er mwyn rhoi amser iddo godi'r arian ar gyfer morgais, ond dros y 18 mis canlynol fe dalodd y dyn sawl taliad o £50,000 i Mr Tanhai fel rhan o'r taliad am yr eiddo.
Gwrthododd dderbynneb am y taliad - mewn arian sychion - ar bob achlysur.
Pan geisiodd Mr Tanhai ofyn am y taliad yn llawn, fe dynnodd y dyn allan o'r cytundeb yn gyfan gwbl a gofyn am yr arian yn ôl.
Erbyn hyn mae'r heddlu yn credu mai dull cymhleth o lanhau arian cyffuriau oedd y cynllun, ond oherwydd anallu Mr Tanhai i ad-dalu'r arian fe ddechreuodd cyfnod o drais a bygythiadau yn erbyn Mr Tanhai a'i deulu.
Ar un cyfnod roedden nhw'n byw mewn cyfeiriad cudd ar gyngor yr heddlu, ond ar ddiwrnod y llofruddiaeth roedden nhw wedi dychwelyd i'w cartref yng Nghaerdydd.
Cofeb
Yn ffodus i Mr Tanhai, ond yn drist iawn fe aeth Hope a Richards i'r tŷ anghywir yn ardal y Rhath, a phan agorodd Aamir Siddiqi y drws ffrynt fe gafodd ei drywanu i farwolaeth.
Roedd y llanc 17 oed yn adolygu yn y llofft pan ganodd cloch y tŷ ar Ffordd Ninian.
Roedd Hope a Richards wedi derbyn £1,000 yr un i lofruddio dieithryn - roedd Hope wedi gwario'r cyfan o fewn 24 awr - ac roedd y ddau i fod wedi galw mewn tŷ yn Ffordd Shirley llai na chan llath i ffwrdd.
Dros y ffordd o gartref Aamir Siddiqi erbyn heddiw mae cofeb ar fainc ym Mharc y Rhath lle bu'n chwarae pêl-droed gyda'i ffrindiau fel bachgen bach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2013