Achos Siddiqi: Dau yn euog o ladd
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi eu cael yn euog o lofruddio llanc 17, oed, a laddwyd mewn camgymeriad ar garreg drws ei gartre' yng Nghaerdydd yn 2010.
Roedd Ben Hope, 39, a Jason Richards, 38, ill dau wedi gwadu lladd Aamir Siddiqi ac o geisio lladd ei rieni.
Penderfynodd y rheithgor yn unfrydol fod y ddau yn euog o'r ddau gyhuddiad, ddiwrnod ar ôl iddynt ddechrau ystyried eu dyfarniad yn Llys y Goron Abertawe.
Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu'r wythnos nesa' ond mae'r barnwr eisoes wedi dweud bod y ddau yn wynebu carchar am oes.
Cafodd Mr Siddiqi ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref ar Ffordd Ninian ym Mharch y Rhath yn Ebrill 2010.
Roedd yn astudio ar gyfer arholiadau Safon Uwch pan ganodd y gloch ac fe aeth i'r drws gan ei fod yn disgwyl ei athro Coran.
Bu farw ar ôl i ddau ddyn mewn mygydau balaclafa ymosod arno gyda chyllyll.
Clywodd y llys fod y ddau wedi ei lofruddio wedi iddyn nhw fynd i'r tŷ anghywir.
'Disgybl disglair'
Roedd tad Aamir, Iqbal, 68, a'i fam 55 oed, Parveen, wedi ceisio atal yr ymosodiad a hefyd wedi cael eu trywanu.
Gan nad oedd y ffôn yn gweithio rhedodd y fam allan o'r tŷ a gweiddi: "Help, help, help, mae'r mab yn marw."
Roedd sawl ymgais i adfywio'r mab ond yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd cyhoeddwyd ei fod wedi marw.
Cafodd Mr Siddiqi, unig fab, ei ddisgrifio fel 'disgybl disglair' ac roedd yn bwriadu astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ôl yr erlyniad roedd gŵr busnes wedi talu Richards a Hope i lofruddio dyn oherwydd methiant cytundeb busnes.
Dywedodd Patrick Harrington QC fod y ddau ddiffynnydd wedi defnyddio car Volvo oedd wedi ei ddwyn ac roedd olion gwaed y llanc yn y car yn ogystal ag olion bysedd Hope.
Honnodd Mr Harrington hefyd fod Richards a Hope wedi newid eu hesgidiau yn ystod prynhawn y diwrnod dan sylw.
Ond clywodd y llys nad oedd unrhyw dystiolaeth o olion gwaed ar eitemau Jason Richards a Ben Hope fyddai'n eu cysylltu â'r digwyddiad.
Gwadu
Yn ystod yr achos, roedd Richards wedi honni bod dyn busnes, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi'i dalu o a Ben Hope i lofruddio cymydog oedd yn byw ar Ffordd Shirley gerllaw.
Gwadodd Richards fod gwaed Aamir wedi'i ganfod ar ei grys am iddo drywanu'r llanc, a mynnodd nad oedd ganddo ran yn y drosedd a'i fod adref yn ei gartref ar Ffordd y Gogledd adeg y llofruddiaeth.
Roedd cofnodion yn dangos fod ei ffôn symudol yn ei gartref ar y pryd.
Roedd ei gyd-ddiffynydd, Ben Hope, hefyd yn gwadu'r llofruddiaeth ond yn ystod yr achos fe honnodd Richards fod Hope wedi mynd i'w gartref gyda gwaed dros ei ddillad cyn mynnu cael dillad glân.
Gwadodd Hope dystiolaeth ei gyd-ddiffynnydd, gan ddweud fod Richards wedi dweud wrtho ddiwrnod wedi'r drosedd ei bod yn bosib ei fod wedi lladd rhywun.
Dywedodd yr erlyniad fod Hope wedi derbyn £1000 am ladd y llanc.
Gwariodd yr arian y diwrnod wedyn a gwelodd y rheithgor ffilm ohono'n mynd ag amlen oedd yn llawn arian i siop cyn prynu esgidiau ymarfer, ac yna gliniadur gwerth £700.
'Newid am byth'
Wedi'r rheithfarn, diolchodd chwaer Aamir Siddiqi, Umbareen, i'r heddlu wrth roi teyrnged i'w brawd.
"Rydym fel teulu yn falch o'r euogfarn cywir yma heddiw.
"Ar Ebrill 11, 2010, cafodd tŷ oedd yn llawn cariad a chwerthin ei ddinistrio gan yr ymosodiad llwfr ar ein rhieni a'n brawd.
"O fewn eiliadau fe newidiodd ein bywydau am byth.
"Roedd Aamir yn berson prydferth gyda dyfodol disglair. Pe bai'n fyw o hyd fe fyddai'n 21 oed ac yn cwblhau ei radd yn y gyfraith erbyn hyn.
"Ef oedd curiad calon ein teulu.
"Hoffwn ddiolch i Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron am eu gwaith diflino yn yr achos hwn. Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i ferched gwych Cefnogi Dioddefwyr sydd wedi rhoi oriau gwirfoddol o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn.
"Diolch hefyd i gymuned ehangach Caerdydd a'r holl deyrngedau bendigedig ddaeth i Aamir. Diolch i'r dieithriaid a ddangosodd ddewrder wrth geisio helpu Aamir a fy rhieni yn syth wedi'r gyflafan.
"Efallai na wnawn ni fyth eich cwrdd, ond fe fyddwn yn ddiolchgar am byth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Medi 2012
- Cyhoeddwyd26 Medi 2012
- Cyhoeddwyd18 Medi 2012
- Cyhoeddwyd17 Medi 2012
- Cyhoeddwyd13 Medi 2012
- Cyhoeddwyd12 Medi 2012
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2012