Postmon Yr Wyddgrug: 'Modd datrys llofruddiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Paul SavageFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mr Savage yn yr ysbyty o anafiadau difrifol iawn

Mae cyn uwchswyddog heddlu fu'n ymchwilio i lofruddiaeth postmon yn Sir y Fflint yn dal i gredu bod modd datrys y dirgelwch 10 wedi'r llofruddiaeth.

Dywedodd y cyn Dditectif Uwch-Arolygydd Chris Corcoran, sydd bellach wedi ymddeol, ei fod yn credu bod rhai pobl yn Yr Wyddgrug yn gwybod pwy laddodd Paul Savage.

Cafodd y dyn 30 oed ei guro â phastwn wrth gario'r post yn Ffordd Clayton ar Chwefror 4, 2003, a bu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae'r heddlu wedi dweud bod yr achos yn "agored".

£100,000

Er gwaethaf cynnig gwobr o £100,000, nid yw'r llofrudd erioed wedi cael ei ddal.

Yn 2005 dywedodd yr heddlu eu bod yn gwybod beth oedd cymhelliad y drosedd ond nad oedden nhw'n fodlon cyhoeddi'r manylion.

Yna yn 2010 dechreuodd plismyn chwilio nifer o gaeau ger safle'r llofruddiaeth ac fe ddaeth eitemau newydd i'r fei ar gyfer profion fforensig.

Mae Mr Corcoran wedi dweud bod rhaid "datrys y dirgelwch" er mwyn teulu Mr Savage.

"Rwy'n dal i gredu bod yr ateb i ddatrys hyn yn y gymuned leol yn Yr Wyddgrug.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r heddlu yn chwilio caeau ger safle'r llofruddiaeth yn 2009

"Ddeng mlynedd wedyn rwy'n credu y bydd rhai o'r tystion iau wedi troi'n oedolion ac yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â chysylltu â'r heddlu ai peidio.

"Er mwyn y gymuned yn Yr Wyddgrug, rhaid datrys hwn. Mae angen cau pen y mwdwl yn lle bod hwn yn rhywbeth sy'n ail-ddigwydd bob blwyddyn.

"Gan rai pobl yn y gymuned y mae'r ateb. Maen nhw'n gwybod yn union beth ddigwyddodd, ac yn nabod y bobl oedd yn rhan o hyn."

Galwodd ar unrhyw un â gwybodaeth i fod "yn ddigon cryf" i ddod ymlaen.

Dywedodd mam Mr Savage, June White, ei bod yn dal i obeithio y daw rhywun ymlaen, gan ychwanegu ei bod am gael ei diwrnod yn y llys.