Cymru 2-1 Awstria
- Cyhoeddwyd
Cafwyd buddugoliaeth haeddiannol i Gymru dros Awstria yn y gêm gyfeillgar yn Stadiwm Liberty nos Fercher, a hynny wedi perfformiad calonogol.
Gareth Bale sgoriodd holl goliau Cymru yn 2012 a dechreuodd 2013 yn yr un modd ar ôl 20 munud wedi cyffyrddiad cyntaf hyfryd i reoli'r bêl o bas hir a chelfydd Joe Allen, ac yna ergyd nerthol i waelod chwith y rhwyd.
Mae e nawr wedi sgorio 7 gôl yn ei 9 gêm ddiwethaf dros Gymru, sydd mor ddibynnol arno.
Fe wnaeth y rheolwr Chris Coleman ddechrau'r gêm gyda Craig Bellamy a Bale fel partneriaeth ymosodol, a thro ar ôl tro roedd y ddau yn peri trafferthion i amddiffyn Awstria.
Croesiad Bale
Ond yr eilydd ddaeth ymlaen yn lle Bellamy, Sam Vokes, roddodd Cymru ymhellach ar y blaen wedi 51 munud gyda pheniad o'r radd flaenaf ychydig y tu mewn i'r cwrt cosbi wedi croesiad da gan, wrth gwrs, Bale.
Roedd amddiffyn Cymru yn fregus y llynedd a phan oedd hyder cefnogwyr Cymru yn cynyddu y bydden nhw ddim yn ildio heno, fe adawyd Marc Janko heb ei farcio'n ddigonol a pheniodd i'r rhwyd o ychydig lathenni wedi 74 munud.
Am weddill y gêm Awstria oedd yn rheoli, gyda Chymru yn amddiffyn yn daer. Fe fyddai wedi bod yn destun digalondid mawr i'r garfan pe bydden nhw wedi ildio'n hwyr.
Roedd angen y fuddugoliaeth i godi hyder. Ymlaen nawr at weddill ymgyrch Cwpan y Byd.
Bydd gemau nesaf Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd oddi cartref yn erbyn Yr Alban ar Fawrth 22 ac yn erbyn Croatia yn Stadiwm Liberty ar Fawrth 26.
Doedd yr ymosodwr Steve Morrison, yr amddiffynnwr James Collins, y golwr Wayne Hennessey a'r amddiffynnwr Neil Taylor ddim ar gael i Gymru nos Fercher oherwydd anafiadau.
Hon hefyd oedd y gêm gyntaf i chwaraewr canol cae West Ham Jack Collinson chwarae dros Gymru ers gêm goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica ym mis Chwefror y llynedd.
Mae Cymru wedi colli tair o'u pedair gêm gyntaf wrth geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014.
Fe ddaeth yr unig fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd pan rwydodd Gareth Bale ddwywaith wrth i Gymru ennill o ddwy gôl i un.
Carfan
Cymru (v Awstria): Jason Brown (Dim clwb), Boaz Myhill (West Brom), Owain Fôn Williams (Tranmere), Ashley Williams (Abertawe, capten), Jazz Richards (Abertawe), James Wilson (Bristol City), Sam Ricketts (Bolton), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Ben Davies (Abertawe), Jack Collison (West Ham), Andy King (Caerlŷr), Joe Allen (Lerpwl), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland), Joe Ledley (Celtic), Gareth Bale (Tottenham), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Simon Church (Reading), Craig Bellamy (Caerdydd) Craig Davies (Bolton).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012