TGAU i barhau yn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Addysg Lloegr Michael Gove am roi'r gorau i'w gynlluniau i gael gwared ar arholiadau TGAU a chyflwyno cymwysterau anoddach o 2015 ymlaen.
Cafodd y newyddion ei groesawu gan Weinidog Addysg Cymru Leighton Andrews ddydd Iau.
Roedd Mr Gove wedi wynebu beirniadaeth lem athrawon, gwleidyddion a byrddau arholi ers iddo gyhoeddi bum mis yn ôl ei fod am gyflwyno tystysgrif bagloriaeth i Loegr.
Ar Radio Five Live dywedodd Mr Andrews fod penderfyniad gwreiddiol Mr Gove yn debygol o danseilio ffydd pobl yn arholiadau TGAU.
Yng Nghymru roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y byddai disgyblion yn parhau i sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch.
'Edifarhau'
"Rwy'n falch fod Lloegr fel Cymru a Gogledd Iwerddon yn mynd i gadw TGAU," meddai.
Dywedodd fod Mr Gove fel "pechadur oedd wedi edifarhau."
Yn wreiddiol, bwriad Mr Gove oedd cael gwared ar TGAU ar gyfer y prif bynciau craidd, Saesneg, Mathemateg a gwyddoniaeth, ac yna ymestyn hynny i bynciau eraill.
Mae'n debyg y bydd Mr Gove hefyd yn rhoi'r gorau i gynllun arall yn y maes addysg.
Does yna ddim bwriad bellach i gael un bwrdd arholi ar gyfer un pwnc penodol yn Lloegr.
Yr wythnos diwethaf rhybuddiodd Pwyllgor Dethol ar Addysg yn Nhŷ'r Cyffredin y llywodraeth am y newidiadau ym myd addysg.
Roedden nhw am i'r llywodraeth arafu'r broses ac ailfeddwl newid y system arholiadau.
Dywedodd adroddiad amlbleidiol fod y newidiadau yn cael eu gwneud ar frys ac mewn peryg o niweidio'r system arholiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2012
- Cyhoeddwyd17 Medi 2012