Ffrainc 6-16 Cymru

  • Cyhoeddwyd
George North yn sgorio i GymruFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Fe groesodd yr asgellwr George North gydag wyth munud o'r gêm yn weddill

Fe wnaeth cais gan yr asgellwr George North tua therfyn y gêm sicrhau buddugoliaeth i Gymru yn Ffrainc.

Hon oedd y fuddugoliaeth gyntaf i Gymru ym Mharis ers 2005 a hefyd y fuddugoliaeth gyntaf i Rob Howley ers iddo gymryd yr awenau oddi wrth Warren Gatland.

Fe groesodd yr asgellwr gydag wyth munud o'r gêm yn weddill ar noson rewllyd ym mhrifddinas Ffrainc.

Roedd y ddau dîm yn gyfartal ar yr hanner, cic gosb yr un i Frederic Michalak a Leigh Halfpenny wedi 40 munud digon siomedig.

Bu'n rhaid i Gymru amddiffyn yn gadarn i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Cic gan Biggar wnaeth ryddhau North ar gyfer y cais fuddugol.

Fe wnaeth Halfpenny yn wych i lwyddo gyda'r trosgais, ac yna dau funud yn ddiweddarach fe wnaeth o sicrhau'r fuddugoliaeth gyda chic gosb.

CYMRU: Halfpenny, Cuthbert, Davies, Roberts, North,Biggar, Phillips; Jenkins, Hibbard, A Jones, Coombs, I Evans, Jones Tipuric, Faletau.

EILYDDION : K Owens, P James, Mitchell, Reed, Shingler, L Williams, Hook, S Williams