Cynllun i reoli erydu arfordirol Dinas Dinlle

  • Cyhoeddwyd
Dinas DinlleFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,

Mae arian sylweddol wedi ei wario i ddiogelu Dinas Dinlle rhag y môr

Mae Dinas Dinlle yn gyrchfan boblogaidd i bobl leol yn ogystal â miloedd sy'n ymweld ag ardal Caernarfon bob blwyddyn.

Ond mae 'na bryder fod yr elfennau yn dinistrio'r traeth yno.

Mae lle i gredu bod y môr wedi achosi mwy o ddifrod i'r arfordir ers i amddiffynfeydd llifogydd gael eu codi yno bron i 20 mlynedd yn ôl.

Nawr mae'r Asiantaeth yn ceisio mynd i'r afael â'r sefyllfa a bydd cynlluniau yn cael eu harddangos yno ddydd Mercher er mwyn i bobl leol gael ymateb.

Mae'r cynigion yn cynnwys cynllun newydd i ail ffurfio rhan o'r traeth graean mân presennol a symud rhan o'r llwybr arfordirol, sy'n cael ei erydu'n raddol.

Mae'r Asiantaeth hefyd yn bwriadu symud y cerrig mawr o'r traeth a gosod graean mân naturiol yn eu lle i'w gwneud yn haws i bobl fwynhau'r traeth.

Yn 1994, cafodd yr amddiffyniad arfordirol ei godi i warchod yr ardal rhag llifogydd o'r môr.

Ond mae'r amddiffyniad wedi golygu fod y graean mân naturiol yn symud llai ac mae hynny wedi arwain at fwy o erydu.

Drwy adfer cyflenwad y graean mân ac ail ffurfio'r traeth, mae'r Asiantaeth yn gobeithio gallu atal rhagor o erydu.

Bydd pobl yn gallu clywed am y cynigion newydd, archwilio'r darluniau o sut allai'r cynllun edrych, gofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau i staff yr Asiantaeth yn y cyfarfod.

'Cywiro'r anghydbwysedd'

Dywedodd David Edwell, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Mae erydu arfordirol yn broses naturiol, ond yn Ninas Dinlle mae'n ymddangos fod yr amddiffyniad arfordirol wedi amharu ar hynny ac rydym angen cywiro'r anghydbwysedd.

"Bydd y cynlluniau newydd rydym yn eu cynnig o gymorth i sicrhau na fydd rhagor o erydu ar yr ardal, ac, yr un pryd, bydd Llwybr Arfordir Cymru a'r twristiaeth lleol y mae'r ardal yn ddibynnol arno yn cael eu diogelu."

Y disgwyl yw y bydd y gwaith ar y cynllun yn dechrau yn yr Hydref a bydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cynigion yn unol â Chynllun Rheoli Traethlin presennol yr ardal.

Cyngor Gwynedd sydd biau'r Cynllun Rheoli Traethlin a'i ddiben yw amddiffyn yr arfordir o flaen y pentref a gweithio gyda'r prosesau naturiol mewn mannau eraill.

Mae'r sesiwn galw i mewn yng nghaffi Bwyty Lleu, Dinas Dinlle, ddydd Mercher rhwng 2pm a 7.30pm a bydd cyflwyniad am y cynigion am 6pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol