Graddfa droseddu ymysg yr ifanc yn gostwng yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
CyffionFfynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,

Nifer y troseddwyr ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi gostwng o 519 yn 2010-11 i 209 yn 2011-12.

Mae nifer y plant a phobl ifanc sy'n troseddu yng Nghymru yn gostwng, yn ôl ffigyrau newydd.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Timau Troseddau Ieuenctid Cymru wedi cofnodi gostyngiad o ran nifer y plant rhwng 10 oed a 17 oed.

Dywedodd y gwasanaeth fod cynllun sy'n targedu plant sy'n debygol o droseddu fel y rhai sy'n dechrau mynd yn absennol o'r ysgol yn un o'r rhesymau am y gostyngiad.

Ers 10 mlynedd mae nifer troseddau pobl ifanc sydd wedi eu cofnodi yn Abertawe wedi gostwng o 2,044 i 428 y llynedd.

Dywedodd adroddiad ar gyfer Cyngor y Ddinas fod gostyngiad troseddau rhwng 2001-02 a 2011-12 "wedi arbed £2.8 miliwn o arian cyhoeddus yn Abertawe".

Yn y ddinas mae nifer o gyrff, gan gynnwys yr heddlu a'r adran gwasanaethau cymdeithasol, yn penderfynu a ddylai troseddwr ifanc gael "ail gyfle" yn lle cael ei erlyn.

'Ail gyfle'

"Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i droseddwyr ifanc wneud iawn am eu hymddygiad a chael ail gyfle," meddai Dusty Kennedy, pennaeth Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.

Dywedodd fod timau troseddwyr ifanc yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi llwyddo i leihau troseddau pobl ifanc rai blynyddoedd yn ôl gan gydweithio â'r heddlu ac ysgolion i addysgu plant ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ychwanegodd fod Tîm Troseddau Ieuenctid Abertawe wedi cofnodi fod nifer y plant oedd yn ail-droseddu rhwng 2001 a 2012 wedi gostwng o 204 i 23.

Yn ôl Mr Kennedy, un rheswm am y gostyngiad oedd creu cynllun "pythefnos euraid" pan mae pobl ifanc sydd wedi cyflawni mân droseddau yn cael eu hasesu.

Mae hyn yn cynnwys rhoi cyfle i rieni'r plant helpu newid ymddygiad y plentyn.

Gostyngiad mwyaf

Yn ôl ffigyrau Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, roedd y gostyngiad mwyaf yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Mae nifer y troseddwyr ifanc yno wedi gostwng o 519 yn 2010-11 i 209 yn 2011-12.

Roedd y gostyngiad lleiaf yng Ngwynedd ac Ynys Môn ond mae'r bwrdd wedi dweud fod gostyngiadau mawr o'r blaen am fod y gwaith atal troseddu wedi dechrau'n gynt.

Nid yw'r ffigyrau cyfredol ar gyfer Caerdydd ar gael oherwydd problemau technegol cofnodi'r data.

Felly er bod y ffigyrau ar gyfer Cymru yn dangos bod 2,770 yn llai o droseddwyr ifanc yn 2011-12 nag yn 2010-11 nid yw'r ffigyrau yn adlewyrchiad cwbl gywir o ran nifer y troseddwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol