Virgin Media yn creu 230 o swyddi newydd yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Virgin Media wedi cyhoeddi y byddan nhw'n creu 230 yn rhagor o swyddi yn ne Cymru.
Dywed y cwmni y bydd y swyddi yn ateb gofynion cwsmeriaid o ran y genhedlaeth nesaf mewn technoleg teledu a band eang cyflym iawn.
Bydd y swyddi newydd yn cael eu lleoli yng Nghanolfan Ragoriaeth y cwmni yn Abertawe a byddant yn cael eu hysbysebu yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae'r swyddi Cymreig yn rhan o gynllun y cwmni i greu 400 swydd trwy'r DU.
Cafodd y ganolfan ei hagor ym Mharc Menter Abertawe ger Stadiwm Liberty yng Ngorffennaf 2012.
Mae'r ganolfan eisoes yn cyflogi 900 o weithwyr.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones: "Bydd y newyddion yn rhoi hwb arall i'r economi leol.
"Mae Virgin Media yn profi eu bod yn dal i dyfu er gwaethaf y cyfnod anodd i fusnesau."
Croesawodd AS Dwyrain Abertawe, Siân James y newyddion gan annog cwmnïau eraill i fuddsoddi yn yr ardal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2012