Cig: Tri wedi eu harestio

  • Cyhoeddwyd
Cig ceffyl
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi archwilio'r ddau safle ddydd Mawrth.

Mae'r heddlu wedi dweud bod dau wedi eu harestio ar safle ffatri gig yn Llandre yng Ngheredigion.

Cafodd un arall ei arestio mewn lladd-dy yn Sir Efrog.

Roedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi archwilio'r ddau safle ddydd Mawrth.

Yn Farmbox Meats ger Aberystwyth cafodd dyn 64 oed a dyn 42 oed eu harestio. Mae'r BBC yn deall taw un ohonyn nhw yw'r perchennog, Dafydd Raw-Rees.

Yn Lladd-dy Peter Boddy yn Todmorden, Sir Efrog, cafodd dyn 63 oed ei arestio.

Cafodd y tri eu harestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â'r Ddeddf Dwyll.

Maen nhw'n cael eu holi yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth.

Gwadu

Eisoes mae'r ddau gwmni wedi gwadu eu bod wedi gwneud unrhywbeth o'i le.

Nos Fawrth dywedodd yr asiantaeth eu bod yn atal y gwaith yn y ffatri yn Llandre ac yn y lladd-dy yn Todmorden.

Y gred yw bod y lladd-dy yn cyflenwi cyrff ceffylau i'r ffatri yn Llandre.

Mae'r heddlu a swyddogion yr asiantaeth wedi mynd â chig a gwaith papur, gan gynnwys rhestrau cwsmeriaid, o'r ddau safle.

Ynghynt ddydd Iau roedd 'na alw ar bob cyngor yng Nghymru i brofi cig sy'n mynd i'r gadwyn fwyd.

Yn y cyfamser, mae Asda wedi cadarnhau bod olion cig ceffyl wedi ei ddarganfod yn un o'u cynnyrch cig eidion ffresh.

Bydd eu poteli saws bolognese eidion 500 gram yn cael eu tynnu oddi ar silffoedd yn syth.