Galw ar bob cyngor Cymreig i brofi cynnyrch cig
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r sgandal ynglŷn â chig ceffyl ddwysáu, mae 'na alw ar i bob awdurdod lleol yng Nghymru brofi cig sy'n mynd i'r gadwyn fwyd gyhoeddus.
Mae'r Aelod Cynulliad Ceidwadol Antoinette Sandbach yn dweud ei bod eisiau gweld mwy o arweiniad gan Lywodraeth Cymru a galwodd ar gynghorau lleol i weithredu.
Mae'r llywodraeth wedi dweud y dylai cwsmeriaid fod â hyder mewn cynnyrch cig eidion Cymreig.
Mae'r cyngor mwya' yng Nghymru, Caerdydd, eisoes wedi dweud y byddan nhw'n cynnal archwiliadau ymhlith cyflenwyr a sefydliadau dros yr wythnosau nesa'.
Dywedodd Mrs Sandbach, AC dros ogledd Cymru, y dylai cynghorau ar draws Cymru ddilyn esiampl Caerdydd.
"Yn amlwg mae'n bryder mawr i gwsmeriaid ac rwy'n credu'n bod ni'n gweld ei fod yn ymestyn o'r Iwerddon i weddill Ewrop," meddai wrth BBC Cymru.
"Byddwn wedi hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn galw ar awdurdodau lleol yn enwedig i edrych ar fwyd yn y sector cyhoeddus, i weld a oes modd adnabod o ble mae'n dod.
"A phan nad oes modd gwneud hynny, gweithredu trwy brofi. Byddwn wedi hoffi gweld ymateb cyflymach, fel rwy'n credu y byddai nifer o bobl," ychwanegodd.
"Byddai wedi bod yn bosib i Lywodraeth Cymru droi at yr awdurdodau lleol hyn a dweud - 'profwch - a gwnewch o nawr'.
"Mae 'na bryder mawr y gallai hyn niweidio enw da bwyd Cymreig ac rwy'n credu y byddai'n ofnadwy gan fod ansawdd y cynnyrch mor dda yma."
'Gonestrwydd'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alan Davies, fod ei ffydd mewn cynnyrch Cymreig yn parhau.
"Yn amlwg, mae gonestrwydd yn hollbwysig i'r gadwyn gyflenwi. Mae cwsmeriaid angen gallu ymddiried yn y bwyd maen nhw'n ei brynu a'i fwyta," meddai.
"Yr hyn rydyn ni'n wneud yw gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod modd i gwsmeriaid ymddiried, yn enwedig mewn cig eidion Cymreig. Os y'ch chi'n edrych ar gig eidion Cymreig, mae 'na ddynodiad Ewropeaidd penodol sy'n golygu fod yn rhaid i'r safleoedd prosesu, y lladd-dai a'r gwerthwyr gwrdd â safonau uchel iawn."
Fore dydd Iau dywedodd David Heath wrth Dŷ'r Cyffredin fod cyrff wyth ceffyl o Brydain wedi profi'n bositif am y cyffur phenylbutazone (bute) a bod tri ohonynt wedi treiddio i'r gadwyn fwyd yn Ffrainc.
Mewn achosion prin mae bute yn gallu bod yn niweidiol i bobl.
Ond cadarnhawyd fod profion ar gynnyrch cwmni Findus wedi dod yn ôl yn negatif.
Daw'r datganiad yn dilyn cwestiwn brys a gyflwynwyd yn San Steffan gan lefarydd Llafur ar yr amgylchedd, Mary Creagh AS, fore Iau.
'Sinigaidd a systematig'
Yn y cyfamser mae grŵp o Aelodau Seneddol wedi beirniadu ymateb llywodraeth y DU i'r sgandal cig ceffyl.
Dywedodd y Pwyllgor Seneddol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ei bod yn debygol nad oedd troseddwyr yn cydymffurfio â rheolau glendid os oeddynt yn twyllo trwy gynnwys cig ceffyl mewn cig eidion.
Yn ôl y pwyllgor, mae'n ymddangos fod y cyhoedd wedi cael eu "twyllo mewn modd sinigaidd a systematig" er mwyn i rannau o'r diwydiant bwyd elwa'n ariannol.
Mae gweinidogion yn mynnu nad oes tystiolaeth o beryglon iechyd.
Ym Mrwsel nos Fawrth, fe bleidleisiodd yr Undeb Ewropeaidd o blaid cynnal profion DNA ar gynnyrch cig eidion er mwyn sicrhau nad oes cig ceffyl yn bresennol.
Mae disgwyl y bydd y profion yn cychwyn ddechrau mis Mawrth.
Yng Nghymru, parhau mae ymchwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd i weithgareddau cwmni Farmbox Meats yn Llandre ger Aberystwyth.
Mae cyfreithiwr perchennog y ffatri wedi dweud bod yr honiadau yn erbyn y safle yn "gamarweiniol".
Dywedodd Aled Owen, cyfreithiwr y cyfarwyddwr Dafydd Raw-Rees, fod ei gleient yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.
Honiadau
Mae'r asiantaeth yn ymchwilio i honiadau fod cig ceffyl wedi cael ei roi mewn byrgyrs a chebabs yn lle cig eidion.
Nos Fawrth dywedodd yr asiantaeth eu bod yn atal y gwaith yn y ffatri ac mewn lladd-dy yn Todmorden yng Ngorllewin Sir Efrog.
Y gred yw bod y lladd-dy yn cyflenwi cyrff ceffylau i'r ffatri yn Llandre.
Mae'r heddlu a swyddogion yr asiantaeth wedi mynd â chig a gwaith papur, gan gynnwys rhestrau cwsmeriaid, o'r ddau safle.
Dywedodd Mr Raw-Rees fod ganddo hawl i dorri cig ceffyl ar y safle.
Dywedodd nad oedd yn gwybod dim am ladd-dy Peter Boddy, fod ganddo drwydded i drin cig coch a'i fod wedi bod yn prosesu cig ceffyl ers rhyw dair wythnos.
"Dwi wedi bod yn prosesu cig ceffyl ers tua thair wythnos a hanner," meddai.
"Mae'r cig yn dod o Iwerddon. Fe ddaeth llwyth y bore 'ma wrth i'r asiantaeth gyrraedd.
"Does 'na ddim wedi ei wneud yma sydd ddim yn cael ei ganiatáu."
Mewn ymateb, dywedodd cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Stephen Wearne fod yr asiantaeth yn "gweithredu ar sail gwybodaeth gredadwy" ac y bydden nhw'n datgelu mwy "unwaith y byddai darlun clir o'r safle".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013