Caerdydd i geisio am Gemau'r Gymanwlad 2026

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm y Mileniwm, CaerdyddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr wedi'u cynnal yn Stadiwm y Mileniwm, gan gynnwys pêl-droed Olympaidd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau y byddan nhw'n parhau â'u cais i lwyfannu Gemau'r Gymanwlad yn 2026.

Cafodd yr addewid ei gynnwys yng nghynlluniau drafft diweddara'r awdurdod.

Mae'r adroddiad yn addo "datblygu cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad fydd, yn ei hun, yn creu manteision yn syth ac yn yr hirdymor".

Fis diwetha' dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod ymgynghorwyr technegol yn edrych ar safleoedd posib yng Nghaerdydd.

Mae 'na drafod wedi bod ynglŷn â chais ers 2009 pan roedd disgwyl i'r ddinas dargedu gemau 2022.

Ond mae'r adroddiad yn dweud fod y cyngor yn paratoi i wneud cais am ddigwyddiad 2026.

'Manteision'

"Mae nifer o fanteision wedi dod yn sgil llwyddiannau Caerdydd wrth gynnal digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol pwysig," meddai'r cynllun drafft.

"Felly mae'n addas i'r weinyddiaeth edrych tuag at gynnal Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 2026.

"Bydd strategaeth y ddinas ar gyfer digwyddiadau mawr dros y pum mlynedd nesa' yn arwain y ffordd at hyn a bydd manteision yn syth ac yn yr hirdymor waeth beth fydd canlyniad y cais."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Pwll yr Ymerodraeth ei adeiladu ar gyfer y gemau yn 1958, a chafodd ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer Stadiwm y Mileniwm

Mae'r ddogfen yn cyfeirio at bedair rhan y strategaeth dros y pedair blynedd nesa', gyda'r nod o gynnal cyfres o ddigwyddiadau uchelgeisiol fel:

  • Gŵyl Hwylio Eithafol ym mis Awst 2013, a cheisio am y Bencampwriaeth Hwylio Dan Do Brydeinig a Chwpan y Byd Canŵio Slalom yn 2013;

  • Cais am Gwpan y Byd Canŵio Slalom yn 2014;

  • Datblygu ac ehangu rasys hanner marathon, 10 cilometr Caerdydd, yn ogystal â Her Traws Gwlad Caerdydd.

Bydd tîm cynllunio rhanbarthol ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn cael ei sefydlu a bydd Gemau Caerdydd yn cael eu cynnal am y tro cynta'r haf hwn.

Astudiaeth

Dywedodd y cyngor eu bod eisiau datblygu eu cynlluniau chwaraeon, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc yn ogystal â hyrwyddo chwaraeon dŵr Olympaidd mewn ysgolion.

Mae'r rhaglen fydd yn arwain at y cais hefyd wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru sydd wedi penodi'r cwmni ymgynghori Arup i adolygu agweddau technegol safleoedd posib ar gyfer y gemau.

Mewn ateb ysgrifenedig i'r cynulliad ym mis Ionawr, dywedodd Prif Weinidog Cymru y dylai'r astudiaeth fod wedi'i chwblhau erbyn mis Ebrill.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar gais posib a byddwn yn ystyried holl gostau a manteision Gemau 2014 yn Glasgow cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol ar gais."

1958

Dyw Caerdydd ddim wedi cynnal Gemau'r Gymanwlad ers 1958 pan oedd y digwyddiad yn cael ei adnabod fel Gemau'r Ymerodraeth.

Bryd hynny, daeth 25 o genhedloedd ynghyd ym Mharc yr Arfau ar gyfer y seremoni agoriadol gyda dros 1,000 o athletwyr yn cystadlu.

Mae'r digwyddiad wedi tyfu'n sylweddol ers 1958. Mae 72 o wledydd bellach yn cymryd rhan, gyda dros 5,000 o gystadleuwyr.

Ond mae'r gost hefyd wedi cynyddu - bydd gemau Glasgow yn costio dros £500m i'w llwyfannu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol