Cannoedd mewn rali i wrthwynebu cau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog
- Cyhoeddwyd
Roedd tua 800 o bobl yn bresennol mewn rali ym Mlaenau Ffestiniog yn erbyn cynlluniau'r bwrdd iechyd i gau'r ysbyty lleol.
Mae dyfodol Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog wedi bod yn destun pryder ers rhai blynyddoedd.
Ym mis Ionawr fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi eu bod yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau - a gyhoeddwyd yn yr haf- a fyddai'n gweld yr ysbyty yn cau.
Ond mae'r trigolion lleol wedi bod yn protestio ac yn ymgyrchu dros gadw'r ysbyty ar agor.
Roedd aelodau o Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog wedi trefnu rali yn y dref ddydd Sadwrn er mwyn tynnu sylw'r bwrdd iechyd at yr anfodlonrwydd ynglŷn â'r bwriad.
Mae'r bwrdd iechyd hefyd am weld ysbytai'r Fflint, Prestatyn a Llangollen yn cau.
Bydd yr uned man anafiadau ym Mlaenau Ffestiniog yn cau cyn diwedd y mis yn ôl y bwrdd.
Mae gan Gynghorau Iechyd Cymuned tua mis i gyfeirio'r mater at y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies eu bod fel pwyllgor hefyd yn poeni nad oes cynlluniau digonol ar gyfer gofalu am y cleifion yn y dyfodol.
Iechyd a gofal
"Dwi ar ddeall mai'r bwriad yw symud y gwelyau yn ystod yr wythnosau nesa' i Ysbyty Alltwen ym Mhorthmadog ac mae 'na addewid am tua £4 miliwn o fuddsoddiad ym Mlaenau Ffestiniog o ran y gofal i gleifion.
"Ond does 'na ddim gwaith hyd yma ar hyn. Dim trafodaeth sut mae'n mynd i weithio wedi bod."
Dywedodd nad oes neb yn anghytuno bod rhaid gwneud arbedion ond bod y cynlluniau a'r trafodaethau wedi ei ganoli am y gofal iechyd hyd yma a fawr o drafod wedi bod o ran y cynlluniau gofal sydd yr un mor bwysig.
"Mae angen ystyriaeth gyfartal i ofal ag sydd 'na i iechyd.
"Dwi'n derbyn bod rhaid gwneud newidiadau i'r gwasanaethau ond yn sgil effaith newidiadau i ofal iechyd mae 'na angen gwell gwasanaeth gofal.
"Mae ysbytai cymunedol yn rhoi cymorth gofal i'r cleifion a chynhaliaeth i'r teuluoedd wrth iddyn nhw wella neu wynebu diwedd oes."
Yn ôl y bwrdd iechyd, does dim dewis ond ad-drefnu gan fod angen gwneud gwerth degau o filoedd o bunnoedd o arbedion i sicrhau cynaladwyedd y gwasanaethau.
O dan gynlluniau'r bwrdd hefyd fe fydd yr uned gofal dwys i fabanod yn symud o'r gogledd i Ysbyty Arrow Park, Cilgwri.
Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu fod yn rhaid iddyn nhw newid gwasanaethau er mwyn ymateb i heriau fel poblogaeth sy'n heneiddio a phrinder meddygon.
Y nod medden nhw yw sicrhau bod gwasanaethau yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013