Rheolwr Iceland yn beio cynghorau am 'fwydydd rhad'
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth cwmni archfarchnad Iceland wedi dweud bod cynghorau lleol yn rhoi gormod o bwyslais ar fwydydd rhad.
Wrth siarad â'r BBC, fe ddywedodd Malcolm Walker bod cynghorau ar fai am roi cytundebau rhad i gwmnïau sy'n darparu bwydydd o safon isel i ysgolion ac ysbytai.
Cwmni Iceland, sydd â'u pencadlys yn Sir y Fflint, ydi un o'r cwmnïau sydd wedi rhoi'r gorau i werthu rhai o'u cynnyrch, ar ôl i gig ceffyl gael ei ddarganfod mewn bwydydd.
Dywedodd Mr Walker ar raglen Andrew Marr na ddylai'r manwerthwyr gael y bai am yr anghydfod.
Ond mae AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, wedi dweud wrth raglen Sunday Politics y BBC, bod hi'n anghywir beio un sefydliad neu gorff.
"Mae'r sgandal yma wedi siglo hyder y diwydiant bwyd.
"Dwi ddim yn meddwl bod hi'n iawn i bwyntio bys at un elfen."
Mae Iceland, Tesco, Asda, Lidl ac Aldi wedi tynnu cynnyrch oddi ar y silffoedd sydd wedi profi'n ddiweddarach i fod yn cynnwys cig ceffyl.
Wedi iddyn nhw dynnu un math o byrgers dywedodd Iceland y byddan nhw'n "cydweithio'n agos gyda'r cyflenwyr" i sicrhau bod y cynnyrch yn cyrraedd "y safon ucha'" a bod 'na hygrededd ynddo.
'Enw gwych'
Daeth ei sylwadau ar ôl i reolwr Waitrose alw am dynhau profion ar gig.
Dywedodd Mark Price bod y cwmni, sy'n rhan o berchnogaeth cwmni John Lewis, yn sefydlu eu ffatri rhewi eu hun i atal llygru o unrhyw fath.
Ond mae Mr Walker yn mynnu bod archfarchnadoedd eisoes yn hynod agored am brofi a safon bwyd.
"Mae gan archfarchnadoedd Prydain enw gwych am ddiogelwch bwyd, maen nhw'n gwneud lot i warchod eu cynnyrch," meddai.
"Os oes rhaid beio unrhyw un, rhaid cychwyn gyda'r awdurdodau lleol.
"Mae 'na ochr i'r diwydiant sy'n gwbl gudd - y diwydiant arlwyo sy'n darparu bwyd i ysgolion ac ysbytai.
"Mae 'na fusnes enfawr ar gyfer bwyd rhad ac mae awdurdodau yn cynnig cytundebau ar sail un peth - pris.
"Dydi Iceland erioed wedi gwerthu cynnyrch rhad, dydan ni ddim.
"Mae ganddo ni un math o fwyd, un lefel o fwyd....rydym yn gwybod lle mae'r bwyd i gyd yn dod ac rydym yn dilyn y gadwyn fwyd ac mae'n un byr iawn.
"Mae cwmnïau amheus a chynhyrchwyr wedi bod yn cyflenwi'r diwydiant arlwyo ac mae awdurdodau lleol yn prynu'r cynnyrch yma ar gyfer ysgolion ac ysbytai...dyna lle mae'r broblem go iawn."
Cyfrifoldeb
Mewn ymateb i sylwadau Mr Walker dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol bod hi'n amlwg bod pennaeth yr archfarchnad yn "ddryslyd".
"Mae'r gyfraith yn gwbl glir mai cyfrifoldeb y manwerthwyr, y cyflenwyr a'r masnachwyr ydi gwneud yn siŵr eu bod yn gwerthu cynnyrch i ni sy'n dweud be ydi o.
"Mae 'na fethiant gwirioneddol wedi bod yn y gadwyn. Nid bai'r prynwr, y cynghorau nac ysbytai ydi hynny.
"Mae'n rhaid i'r cwmnïau sy'n ein cyflenwi gymryd cyfrifoldeb.....mae'r rhan fwya' yn gwneud hynny ac fe ddylai Iceland wneud yr un fath."
Yn y cyfamser mae 'na awgrym bod gweinidogion amaeth San Steffan wedi cael gwybod ddwy flynedd yn ôl bod 'na bosibilrwydd bod cig ceffyl wedi cyrraedd y gadwyn fwyd yn anghyfreithlon.
Mae John Young, cyn-reolwr y Gwasanaeth Hylendid Cig, yn dweud ei fod yn un o'r rhai a anfonodd lythyr at Adran Amaeth y Llywodraeth oedd yn son am y pryderon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013