Gweinidogion Ewrop o blaid profion DNA ar gig eidion
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r ymchwiliad barhau i honiadau bod ffatri gig o Geredigion yn rhan o'r helynt cig ceffyl, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi pleidleisio o blaid cynnal profion DNA ar gynnyrch cig eidion er mwyn sicrhau nad oes cig ceffyl yn bresennol.
Bu gweinidogion o saith o wledydd sydd wedi'u taro gan yr helynt yn cwrdd ym Mrwsel nos Fercher.
Mae'r argymhelliad yn rhan o gynllun y Comisiwn Ewropeaidd i atal y sgandal cig ceffyl rhag datblygu ymhellach ac mae disgwyl y bydd y profion yn cychwyn ddechrau mis Mawrth.
Mae galw hefyd am brofi cig ceffyl i weld a yw'n cynnwys olion o gyffur milfeddygol allai fod yn niweidiol i iechyd pobl.
Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan Sian Davies, swyddog undeb amaethwyr yr NFU ym Mrwsel, a ddywedodd:
"Da ni moyn 'neud yn sicr bod y cyhoedd yn gallu bod yn siŵr fod beth maen nhw'n prynu yn y siopau yn gwmws beth maen nhw'n bwriadu prynu - mae hyn yn gam yn y cyfeiriad cywir.
"Mae'r NFU wedi bod yn galw ers blynyddoedd mawr am labelu clir. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud yn y diwedd eu bod yn mynd i gyhoeddi adroddiad ar labelu cig wedi'i brosesu.
"Mae labelu cig eidion a chig oen wedi bod yn llym ofnadwy dros y blynyddoedd diwetha'. Does 'na ddim rheolau llym wedi bod gyda chig wedi'i brosesu.
"Mae'r Comisiwn wedi dweud y byddan nhw'n dod â'r adroddiad hwnnw 'mlaen. Roedd o i fod i gael ei gyhoeddi ddiwedd y flwyddyn eleni ond mae'n mynd i gael ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesa' rwan."
Beirniadu ymateb
Yn y cyfamser, mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wedi beirniadu ymateb llywodraeth y DU i'r sefyllfa ac maent wedi galw am fwy o brofion i dawelu meddyliau pobl nad oes bygythiad i iechyd y cyhoedd.
Dywedodd y Pwyllgor Seneddol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ei bod yn debygol nad oedd troseddwyr yn cydymffurfio â rheolau glendid os oeddynt yn twyllo trwy gynnwys cig ceffyl mewn cig eidion.
Yn ôl y pwyllgor, mae'n ymddangos fod y cyhoedd wedi cael eu "twyllo mewn modd sinigaidd a systematig" er mwyn i rannau o'r diwydiant bwyd elwa'n ariannol.
Dywedodd yr adroddiad: "Mae'n ymddangos yn anhebygol y byddai unigolion sy'n barod i gymryd arnynt mai cig eidion yw cig ceffyl yn cydymffurfio â'r safonau glendid angenrheidiol o fewn y diwydiant cynhyrchu bwyd."
Mae gweinidogion yn mynnu nad oes tystiolaeth o beryglon iechyd.
Yng Nghymru, parhau mae ymchwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd i weithgareddau cwmni Farmbox Meats yn Llandre ger Aberystwyth.
Mae cyfreithiwr perchennog y ffatri wedi dweud bod yr honiadau yn erbyn y safle yn "gamarweiniol".
Dywedodd Aled Owen, cyfreithiwr y cyfarwyddwr Dafydd Raw-Rees, fod ei gleient yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.
Honiadau
Mae'r asiantaeth yn ymchwilio i honiadau fod cig ceffyl wedi cael ei roi mewn byrgyrs a chebabs yn lle cig eidion.
Nos Fawrth dywedodd yr asiantaeth eu bod yn atal y gwaith yn y ffatri ac mewn lladd-dy yn Todmorden yng Ngorllewin Sir Efrog.
Y gred yw bod y lladd-dy yn cyflenwi cyrff ceffylau i'r ffatri yn Llandre.
Mae'r heddlu a swyddogion yr asiantaeth wedi mynd â chig a gwaith papur, gan gynnwys rhestrau cwsmeriaid, o'r ddau safle.
Dywedodd Mr Raw-Rees fod ganddo hawl i dorri cig ceffyl ar y safle.
Dywedodd nad oedd yn gwybod dim am ladd-dy Peter Boddy, fod ganddo drwydded i drin cig coch a'i fod wedi bod yn prosesu cig ceffyl ers rhyw dair wythnos.
"Dwi wedi bod yn prosesu cig ceffyl ers tua thair wythnos a hanner," meddai.
"Mae'r cig yn dod o Iwerddon. Fe ddaeth llwyth y bore 'ma wrth i'r asiantaeth gyrraedd.
"Does 'na ddim wedi ei wneud yma sydd ddim yn cael ei ganiatáu."
Mewn ymateb, dywedodd cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Stephen Wearne fod yr asiantaeth yn "gweithredu ar sail gwybodaeth gredadwy" ac y bydden nhw'n datgelu mwy "unwaith y byddai darlun clir o'r safle".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013