Archfarchnadoedd: cyfarfod cig
- Cyhoeddwyd
Bydd Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y DU, Owen Paterson, yn cyfarfod cynrychiolwyr yr archfarchnadoedd yn ddiweddarach i drafod beth sy'n cael ei wneud i adfer hyder y cyhoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) y byddai Mr Paterson hefyd yn clywed y diweddaraf ynghylch canlyniadau'r profion sydd wedi eu cynnal ar eu cynnyrch.
Yn y cyfamser, dywedodd tua 24% o 2,257 o oedolion a holwyd gan Consumer Intelligence y byddan nhw'n prynu llai o gig wedi ei brosesu.
A dywedodd 21% eu bod yn prynu llai o gig yn gyffredinol, ac roedd 62% yn fwy tebygol o brynu eu cig o siopau annibynnol.
Ddydd Sul roedd pennaeth cwmni Iceland, Malcolm Walker, yn feirniadol o gynghorau lleol am gael cytundebau bwyd rhad ar gyfer ysgolion ac ysbytai.
Roedd Iceland, sydd â'u pencadlys yn Sir y Fflint, yn un o'r cwmniau a dynnodd gynnyrch oddi ar eu silffoedd wedi i olion o DNA ceffyl gael eu darganfod ynddyn nhw.
Dywedodd Mr Walker na ddylid beio manwerthwyr am yr argyfwng cig ceffyl: "Mae gan archfarchnadoedd Prydeinig enw gwych am ddiogelwch bwyd."
"Os ydyn ni'n mynd i feio unrhyw un, gadewch i ni ddechrau gyda'r cynghorau lleol, achos mae yna ochr i'r diwydiant hwn sy'n anweledig - dyna'r diwydiant arlwyo. Ysgolion, ysbytai - mae'n fusnes enfawr ar gyfer bwyd rhad ac mae awdurdodau lleol yn dyrannu cytundebau yn seiliedig ar un peth yn unig - pris," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Arlwywyr Llywodraeth Leol ei bod wedi ei "siomi" gan sylwadau Mr Walker.
"Mae awdurdodau lleol ar draws y wlad wedi bod yn hollol gefnogol i ymdrechion y wella safon bwyd mewn ysgolion dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.