Iechyd: Diffyg hyder?

  • Cyhoeddwyd
Gwrthdystwyr yn Y Fflint
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr y tu allan i gyfarfod o'r bwrdd iechyd pan gafodd y newidiadau eu cadarnhau ym mis Ionawr

Bydd cynghorwyr sir Conwy yn trafod cynnig o ddiffyg hyder yn y bwrdd iechyd lleol ddydd Iau.

Cafodd y drafodaeth ei ohirio fis diwethaf ar ôl i'r ddwy ochr gytuno i gynnal trafodaethau.

Mae nifer o gynghorwyr yn anhapus gyda chynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd.

Ymhlith rhai o'r cynlluniau dadleuol mae'r penderfyniad i gau ysbytai cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog, Y Fflint, Llangollen a Phrestatyn.

Bwriad arall yw trosglwyddo gofal dwys i fabanod o Ysbytai Glan Clwyd a Wrecsam Maelor i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri ar Lannau Mersi.

Dywed y Bwrdd nad yw peidio ad-drefnu yn opsiwn.

Maen nhw'n yn mynnu bod yn rhaid iddyn nhw newid gwasanaethau er mwyn ymateb i heriau fel poblogaeth sy'n heneiddio a phrinder meddygon.

Bydd y cynnig o ddiffyg hyder yn cael ei gyflwyno gan Cheryl Carlisle (Ceidwadwr), Brian Cossey (Democratiaid Rhyddfrydol) a Phil Edwards (Plaid Cymru).

Mae grŵp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad hefyd wedi galw ar y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths i ymyrryd yn y mater.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel pob bwrdd iechyd arall yng Nghymru, yn wynebu gwasgfa ariannol sylweddol sy'n golygu dod o hyd i arbedion gwerth degau o filoedd o bunnau bob blwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol