Iechyd: 'Ad-drefnu neu ddymchwel'

  • Cyhoeddwyd
Flint protesters
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr y tu allan i gyfarfod o'r bwrdd iechyd yn Sir y Fflint pan gafodd newidiadau eu cadarnhau y mis diwethaf

Mae prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhybuddio y gallai gwasanaethau iechyd "ddymchwel" oni bai bod ail-strwythuro o fewn ein hysbytai.

Mewn cyfweliad â rhaglen 'Sunday Politics Show' BBC Cymru, fe ddywedodd bod pobl yn awyddus i weld gwasanaeth iechyd sy'n "ddiogel a chynaliadwy".

Fe ddywedodd hefyd y byddai'n rhaid i gleifion o Gymru deithio i Loegr i gael rhai gwasanaethau yn y dyfodol, fel sydd eisoes yn digwydd, gan ychwanegu nad oedd modd dyblygu'r holl wasanaethau yma yng Nghymru sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Iechyd trwy Brydain.

Mae cynlluniau'r byrddau iechyd yn y gorllewin a'r gogledd wedi eu beirniadu'n hallt gan brotestwyr, ond nid yw Carwyn Jones yn disgwyl y bydd y gwrthdystio yn amharu ar obeithion ei blaid o lwyddo yn etholiad y cynulliad ymhen tair blynedd.

Pryderon

Ddydd Gwener fe wnaeth arweinwyr cyngor yn Sir Ddinbych fynegi pryderon am effaith ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru.

Mae'n dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gau pedwar ysbyty cymunedol a throsglwyddo gofal dwys i fabanod i ysbyty yn Lloegr.

Bydd gwasanaethau yn ysbytai Blaenau Ffestiniog, Y Fflint, Llangollen a Phrestatyn yn cael eu trosglwyddo i 10 o safleoedd canolog wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gadarnhau y byddan nhw'n cau.

Dywedodd y bwrdd fod rhaid newid oherwydd yr heriau ddaw yn sgil pwysau ariannol.

Mae'r cynlluniau a gyhoeddwyd fis diwethaf wedi arwain at wrthwynebiad gan y cyhoedd a rhai o'r cynghorau.

Mae grŵp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad, gan gynnwys un aelod Llafur, wedi galw ar y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths i ymyrryd yn y mater.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol