Clogyn Aur Yr Wyddgrug yn dod i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Mantell Aur yr WyddgrugFfynhonnell y llun, British Museum
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y fantell i'w gweld yng Nghymru dros yr haf

Bydd Clogyn Aur Yr Wyddgrug yn cael ei harddangos yng Nghymru yr haf yma.

Bydd y clogyn yn cael ei benthyg gan yr Amgueddfa Brydeinig a bydd yn cael ei harddangos yng Nghaerdydd a Wrecsam.

Gwnaethpwyd y clogyn aur seremonïol tua 3,700 o flynyddoedd yn ôl yn ystod yr Oes Efydd Cynnar.

Cafodd ei ddarganfod ym Mryn yr Ellyllon, sy'n ardal o'r Wyddgrug bellach, ym 1833.

Daeth y clogyn yn rhan bwysig o arddangosfeydd hanes yr Amgueddfa Brydeinig, a chafodd ei hadfer yn y 1960au.

Mae ymchwil diweddar wedi awgrymu y gallai gwisgwr y fantell wedi bod yn fenyw.

Bydd y fantell yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd ac Amgueddfa Wrecsam.

'Campwaith amhrisiadwy'

Dywedodd David Anderson, cyfarwyddwr Amgueddfa Cymru: "Rydym wrth ein boddau y bydd y campwaith Oes Efydd amhrisiadwy o ogledd ddwyrain Cymru yma'n cael ei harddangos yma yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

"Mae cael un o arteffactau mwyaf pwysig o'r Oes Efydd Ewropeaidd 'nôl yng Nghymru, lle cafodd ei ddarganfod yn wreiddiol, yn gyfle gwych i bobl leol ac ymwelwyr ei fwynhau ac i ddarganfod mwy am eu treftadaeth."

Dywedodd Neil Rogers, arweinydd Cyngor Wrecsam: "Y tro diwethaf i'r fantell ddod i Wrecsam yn 2005 fe ddenodd 11,500 o ymwelwyr o fewn 12 wythnos.

"Mae hyn yn dangos y lefel enfawr o ddiddordeb yn archaeoleg a'n treftadaeth cynhanesyddol ymhlith y cyhoedd lleol.

"Felly dwi wir yn edrych ymlaen at weld y fantell yn dychwelyd i'r dref."

Bydd y fantell yn Amgueddfa Cymru o Orffennaf 2 tan Awst 4 ac yna yn Amgueddfa Wrecsam rhwng Awst 7 a Medi 14 2013.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol