Pentrefwyr Ysbyty Ifan yn gobeithio denu ymwelwyr wedi'r Oscars

  • Cyhoeddwyd
Bryngwyn, Ysbyty Ifan, ConwyFfynhonnell y llun, Sion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ers y 1940au mae Bryngwyn, lle'r oedd hen hen daid Abraham Lincoln yn byw, wedi bod yn wag

Bydd gan bentrefwyr Ysbyty Ifan ddiddordeb ychwanegol yn seremoni'r Oscars nos Sul gyda gobaith y bydd yn denu twristiaid i'r ardal.

Un o'r ffefrynnau i ennill rhai o'r prif wobrau ydi ffilm Steven Spielberg, Lincoln.

Mae disgwyl y bydd Daniel Day-Lewis yn cael ei wobrwyo am bortreadu'r cyn-Arlywydd sydd a'i wreiddiau yng Nghymru.

"Roedd hen hen daid Abraham Lincoln, John Morris, yn byw ym Mryngwyn," meddai Eirian Roberts sy'n ffermio'r tir lle mae hen adeilad Bryngwyn.

Gwell bywyd

Dywedodd bod merch John Morris, Ellen, wedi ymfudo i America gyda chriw o Grynwyr rhywdro yn nechrau'r 17eg Ganrif.

Ffynhonnell y llun, AFP/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Abraham Lincoln gysylltiadau Cymreig cry'

"Dwi'n meddwl iddi adael oherwydd ansawdd gwael y bywyd oedd yma a bod 'na addewid am well bywyd yn Pennsylvania," meddai Eirian Roberts.

"Pan oedd hi allan yn America fe wnaeth hi gyfarfod a phriodi Cadwaladr Evans a oedd yn dod o'r Bala.

"Fe wnaeth eu merch, Sarah, briodi John Hanks a'i merch nhw oedd Nancy mam Abraham Lincoln."

Mae Bryngwyn yn fwthyn carreg sydd wedi bod yn wag ers y 1940au.

Eglurodd Eirian Roberts bod nifer o Americanwyr eisoes yn gwybod am y cysylltiad Cymraeg gyda rhai wedi galw i weld Bryngwyn.

Dywedodd y gallai llwyddiant y ffilm ddenu mwy o ymwelwyr i Ysbyty Ifan a gweld y llwybr o Fryngwyn i'r Tŷ Gwyn.

Bydd y gatores o Gaerdydd, Shirley Bassey a'r actores Catherine Zeta Jones, yn perfformio yn y seremoni Oscars nos Sul.

Bydd Bassey yn rhan o ddathliad 50 mlynedd ffilmiau Bond.

Fe fydd Zeta Jones yn rhan o gast fydd yn dathlu'r sioeau cerdd dros y 10 mlynedd diwethaf.

Ymddangosodd Zeta Jones mewn cynhyrchiad ffilm o'r sioe gerdd Chicago gan ennill Oscar am yr actores gynorthwyol gorau yn 2002.