Hwb ariannol i Nant Gwrtheyrn gynnig mwy o gyrsiau

  • Cyhoeddwyd
Gwers Gymraeg yn Y NantFfynhonnell y llun, NAnt Gwrtheyrn
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gynnydd wedi bod yn nifer y rhai sy'n mynychu gwersi yn y Nant

Mae Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn wedi cael £68,000 yn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Y bwriad ydi sicrhau y bydd rhagor o oedolion yn cael y cyfle i ddysgu'r Gymraeg ar gyrsiau preswyl yn y ganolfan ger Llithfaen.

Y ganolfan yma yw'r unig ddarparwr yng Nghymru sy'n cynnig cyrsiau preswyl Cymraeg i Oedolion drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r rhaglen Cymraeg i Oedolion wedi'i hanelu at sicrhau bod pobl o bob oed a chefndir yn gallu dysgu Cymraeg er mwyn defnyddio'r iaith gyda'u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

Mae nifer y dysgwyr sydd wedi manteisio ar y cyrsiau hyn wedi cynyddu 42% ers 2009.

'Bywyd bob dydd'

Dywedodd y Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Leighton Andrews: "Rydym yn ymrwymedig i weld y Gymraeg yn ffynnu ac i roi cyfle i ragor o bobl ddatblygu a defnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd.

"Fel un sydd wedi dysgu Cymraeg fy hun, dwi'n gwybod am werth y cyrsiau sydd yn Nant Gwrtheyrn a dwi wrth fy modd o weld bod mwy a mwy o bobl yn dewis dysgu'r Gymraeg.

"Bydd y swm ychwanegol o £68,000 ar gyfer Nant Gwrtheyrn yn eu galluogi i gwrdd â'r galw cynyddol am y cyrsiau preswyl unigryw hyn drwy gydol y flwyddyn a bydd yn sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg."

Ymgynghorydd i Nant Gwrtheyrn sydd wedi bod yn arwain y datblygiad yma ydi Jim O'Rourke.

"Mae'r ganolfan yn gwneud yn dda, wedi cynyddu gweithgareddau yna fel priodasau a chynadleddau, ond o ran agwedd y cyrsiau iaith, rydym yn derbyn grant sy'n ddibynnol ar nifer sy'n mynychu'r cyrsiau," meddai.

"Ond mae hwn wedi ei rewi am gyfnod gydag adolygiad yn cael ei gynnal o ran dysgu Cymraeg i oedolion.

"Ond mae'r llywodraeth yn cydnabod y twf ac felly gyda'r arian ychwanegol fe fyddwn ni'n gallu cynnig mwy o gyrsiau, fe fydd mwy yn dod yma hefyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol