Sêl bendith i fferm ynni'r môr

  • Cyhoeddwyd
SeaGenFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o dyrbeini sy'n defnyddio ynni'r môr

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sêl bendith ar gynlluniau ar gyfer fferm ynni gwerth £70m oddi ar arfordir Ynys Môn fydd yn defnyddio tonnau'r môr i gynhyrchu ynni.

Hon fyddai'r fferm gyntaf o'i bath yng Nghymru ac un o'r mwyaf ym Mhrydain.

Bwriad cwmni Siemens yw gosod pump o dyrbeini yn y môr fydd yn gallu cynhyrchu 10MW (Mega Watt) o ynni, sy'n ddigon i gyflenwi hyd at 10,000 o gartrefi, neu 20% o anghenion Ynys Môn.

Ddwy flynedd yn ôl fe wnaeth Ystadau'r Goron gytuno ar brydles ar gyfer rhan o'r môr ger Ynysoedd y Moelrhoniaid i'w ddefnyddio gan ddau gwmni fel partneriaeth - Marine Current Turbines (MCT) ac RWE nPower Renewables.

Prynwyd MCT gan Siemens y llynedd a'r bwriad nawr yw dechrau ar y gwaith comisiynu yn ystod 2015.

Roedd y ddau gwmni eisoes wedi gofyn barn amryw fudiadau ar y cynlluniau, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, RSPB, Trinity House, Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a'r Ganolfan Amgylchedd Pysgodfeydd a Gwyddorau'r Môr, gan honni fod y cynllun wedi cael croeso yn gyffredinol.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Un o dyrbeini SeaGen gyda graffeg yn dangos sut y bydd yn gweithio

Nawr bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sêl bendith ar y cynlluniau, bydd y prosiect yn medru cael £10m o Lywodraeth y DU.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Dwi wrth fy modd i gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn rhoi trwydded ar gyfer y prosiect.

"Mae hyn yn dangos manteision Cymru ar gyfer buddsoddiadau yn ymwneud ag ynni'r môr, gyda'n hadnoddau o ran y llanw, ein porthladdoedd a'n hagosrwydd i'r grid".

Yn ôl Prif Weithredwr Siemens Energy, Achim Woerner: "Bydd hyn yn rhoi hwb economaidd sylweddol i Ynys Môn a gogledd Cymru".