Y frech goch ar gynnydd

  • Cyhoeddwyd
Bachgen gyda'r frech gochFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Bachgen gyda'r frech goch

Mae adroddiadau bod 189 o achosion o'r frech goch wedi eu cofnodi yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae ugain o'r achosion o fewn yr 20 wythnos ddiwethaf.

Mae'r ffigwr yn cymharu â 116 o achosion drwy Gymru'r llynedd.

Yn 2009 cafodd 159 o achosion eu cofnodi yn ne orllewin Cymru.

Mae'r clefyd yn achosi tymheredd uchel, peswch a sbotiau coch-brown ar y croen.

Gallai rhai achosion arwain at chwyddo'r ymennydd.

Yn ôl yr awdurdodau iechyd y ffordd fwyaf effeithiol o rwystro'r clefyd yw'r chwistrelliad MMR.

Dywedodd Dr Marion Lyons, o Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn bryderus am y sefyllfa yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd.

"Mae'n anodd pwysleisio fod y frech goch yn gallu lladd, neu achosi niwed i'r ymennydd, yr unig amddiffyniad yw'r MMR."

Cred Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yna dros 8,500 o blant mewn risg yn ardal iechyd Abertawe Bro Morgannwg.