'Angen deddf i helpu cymunedau achub tafarndai ac adeiladau pwysig'

Llun o aelodau Menter y Ring y tu allan i dafarn y Brondanw ArmsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn y Brondanw Arms yn Llanfrothen yn un enghraifft o'r gymuned yn camu i mewn i achub ased lleol

  • Cyhoeddwyd

Pobl leol ddylai gael y cynnig cyntaf pan fydd tir neu adeiladau sy'n bwysig iddynt yn mynd ar werth, yn ôl comisiynydd.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn galw am ddeddf newydd fyddai'n rhoi mwy o hawliau i gymunedau warchod adeiladau a safleoedd sy'n bwysig iddynt.

Yn ôl y comisiynydd, Derek Walker, gallai safleoedd pwysig "gael eu colli am byth oni bai bod cymunedau'n cael cyfle teg i'w hachub".

Mae'n annog pleidiau gwleidyddol i gyflwyno Bil Hawl Cymunedol i Brynu, gan ddweud fod deddfau tebyg eisoes yn bodoli yn yr Alban a Lloegr.

'Mae'n bryd rhoi'r pŵer iddynt'

Dywedodd Mr Walker mai "cymunedau sy'n gwybod orau beth sydd ei angen arnynt i ffynnu".

"Ond yn rhy aml, maent wedi'u cloi allan o benderfyniadau am y lleoedd sydd bwysicaf," meddai.

"Mae'n bryd rhoi'r pŵer iddynt weithredu.

"Byddai Bil Hawl i Brynu Cymunedol yn rhoi'r cyfle hwnnw iddyn nhw ac yn sicrhau bod mannau hanfodol yn aros wrth wraidd bywyd cymunedol."

Llun o Derek WalkerFfynhonnell y llun, Marie Palbom
Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn galw am gyflwyno bil newydd

Yn 2022, fe ddaeth Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd i'r casgliad bod perchnogaeth gymunedol wedi arwain at arian yn cael ei gadw yn yr economi leol.

Dywedon nhw hefyd ei fod yn gwella iechyd a llesiant ac yn creu mannau ar gyfer diwylliant, prosiectau bwyd ac ynni gwyrdd.

'Calon y gymuned'

Mae Tafarn yr Iorwerth ym Mryngwran, Ynys Môn, yn dafarn sy'n eiddo i'r gymuned, wedi iddi gael ei hachub rhag cau a chael ei dymchwel yn 2015.

Dywedodd cadeirydd y dafarn, Neville Evans bod "yn bendant" angen deddf o'r fath a'i fod yn "llwyr gefnogol" o'r alwad.

"Bron iawn i ni golli'r dafarn gan ei bod hi ar y farchnad agorad - o'dd rhywun 'di prynu'r dafarn fwy neu lai ac fe alla ni 'di 'cholli hi am byth," meddai.

Esboniodd bod y cwmni wedi gwerthu'r dafarn iddyn nhw chwe mis yn ddiweddarach ac fe gafon nhw ail gyfle i achub "calon y gymuned".

Llun o dafarn yr IorwerthFfynhonnell y llun, Neville Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadeirydd Tafarn yr Iorwerth yn "sicr" bod angen deddf o'r fath

Dywedodd yn ystod y broses eu bod wedi sylweddoli "yn Lloegr ma'r hawl i gymuneda' gael y cynnig cynta'" ac mi fyddai hynny wedi "rhoi cyfla' i ni godi arian".

"Do'dd dim digon o amsar i drefnu achos odd ofn bydda'r dafarn yn cael ei gwerthu eto," meddai.

"Trwy lwc yn fwy na dim" fe weithiodd pethau allan yn iawn, meddai Mr Evans, ond dywedodd bod hynny'n "dangos bod wir angen deddf fel hyn".

Eleni mae'r fenter yn dathlu 10 mlynedd, ac ers i'r gymuned gymryd rheolaeth ohoni, mae Tafarn yr Iorwerth wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys tafarn wledig orau Prydain.

Maen nhw hefyd wedi datblygu'r adeiladau allanol ar gyfer busnesau a bellach mae tri busnes yn cael eu rhedeg yno.

"Roedd o'n cael ei redag i lawr gan y bragdy a neb yn mynd yno," meddai Mr Evans, ond "unwaith 'da ni 'di cymryd o 'da ni 'di dod â'r busnas yn ôl".

"Tasa ni 'di colli'r dafarn mi fasa ni 'di colli calon y gymuned."

Bu rhaid i bobl ardal Llanfrothen ddod ynghyd y llynedd i godi £200,000 o fewn wythnos i brynu les un o dafarndai mwyaf adnabyddus Gwynedd.

Fe aeth les tafarn y Brondanw Arms, sy'n cael ei adnabod fel 'Y Ring' yn lleol, ar werth ond ni chafodd y gymuned lawer o rybudd.

"Doedd dim cyfathrebu o gwbl. A'th o syth i'r farchnad agorad," meddai is-gadeirydd Menter y Ring, Llio Glyn Griffiths.

"Roedd pob dim yn frysiog a teimlo fatha bod dim digon o amsar."

Brondanw LlanfrothenFfynhonnell y llun, Tudalen Facebook 'Rhyddhewch y les'
Disgrifiad o’r llun,

Roedd "balchder mawr" yn Llanfrothen ar ôl i ymgyrch i ddiogelu'r dafarn lwyddo

Dywedodd Llio ei bod mor bwysig bod cymunedau lleol yn gallu achub y safleoedd hyn, gan ei fod yn eu "hamddiffyn ar gyfer y dyfodol".

"Dydy o ddim just i ni - mae o i'r genhedlaeth nesa'."

Agorodd drysau'r Ring unwaith eto mis Awst eleni.

Ychwanegodd Llio bod "balchder mawr" yn y gymuned ar ôl iddyn nhw lwyddo i achub y dafarn, a'r ffaith ei bod "o fewn dwylo lleol yn lle bragdy o Loegr".

Erbyn hyn mae momentwm o fewn y gymuned, meddai, gyda mwy o wirfoddolwyr yn cynnig helpu "ma' nhw really 'di mwynhau a teimlo bod nhw'n perthyn i rwbath".

"Chi'n gallu datblygu a cynnig stwff gwahanol o fewn y dafarn hefyd" meddai, "ma' 'na rwbath i bawb."

Amser trafod 'wedi pasio'

Mewn ymateb, dywedodd llywodraeth Lafur Cymru: "Rydyn ni wedi sefydlu Comisiwn i ysgogi meddwl arloesol ar berchnogaeth gymunedol o dir ac asedau yng Nghymru."

Dywedodd Plaid Cymru fod Llafur, ar ôl 26 mlynedd mewn llywodraeth, "wedi methu â rhoi'r offer sydd ei angen ar gymunedau i ffynnu ar waith".

Ychwanegodd y blaid bod yr amser am drafod wedi pasio, a bod polisi hawl i gymunedau brynu yn "flaenoriaeth" iddynt.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig, er eu bod yn cefnogi'r bwriad, "mae Llafur wedi methu'n barhaus â rhoi cefnogaeth briodol i'n tafarndai, parciau a neuaddau pentref".

Mae'r Ceidwadwyr "wedi ymrwymo" i gael gwared â threthi i fusnesau bach, "cefnogi ein strydoedd mawr a thafarndai" a helpu i gymunedau ffynnu.

Mae'r prif bleidiau wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.