Haint coed ynn mewn tri safle newydd

  • Cyhoeddwyd
Coeden onnenFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r onnen yn bwysig am ei phren, fel coed tân, fel noddfa bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ac fel rhan o'r tirlun.

Mae haint coed ynn wedi ei darganfod mewn tri safle newydd yng Nghymru, mae'r Comisiwn Coedwigaeth wedi cadarnhau.

Cafodd y ffwng heintus ei ddarganfod ymysg glasbrennau yn Sir Benfro a Cheredigion.

Dyma'r achosion cyntaf i'w cadarnhau yng Nghymru yn 2013.

Cafodd yr achos cyntaf ei ganfod yng Nghymru mewn coetir yn Sir Gâr ym mis Tachwedd.

Bellach mae 16 achos o'r haint wedi dod i'r amlwg yng Nghymru, y mwyafrif yn y de-ddwyrain. Ym Mhrydain mae 386 achos.

Nid yw swyddogion wedi cyhoeddi union leoliad yr haint gan nad ydyn nhw am rwystro tirfeddianwyr eraill rhag adrodd am eu pryderon os ydyn nhw'n amau bod y ffwng yn bresennol yn eu coed nhw.

15,348 hectar

Mae'r haint eisoes wedi taro nifer o goed mewn meithrinfeydd ar draws y DU.

Hyd yn hyn mae tua 100,000 o goed yn Lloegr a'r Alban wedi eu dinistrio

Mae swyddogion y Comisiwn Coedwigaeth yn anfon samplau i gael eu profi gan arbenigwyr iechyd planhigion os ydyn nhw'n amau bod unrhyw goed yn dioddef o'r haint.

Mae yna 15,348 hectar o goed ynn yng Nghymru, sef 5% o'r 304,000 hectar o goetir ym Mhrydain.

Mae'r onnen yn bwysig am ei phren, fel coed tân, fel noddfa bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ac fel rhan o'r tirlun.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol