Rhybudd am brinder mentoriaid i athrawon newydd

  • Cyhoeddwyd
Dysgu dosbarth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r corff wedi honni nad yw 200 o athrawon newydd wedi cael mentoriaid ar gyfer eu blwyddyn ymsefydlu.

Mae aelodau corff proffesiynol wedi rhybuddio bod athrawon newydd gymhwyso mewn perygl o golli cefnogaeth yrfaol oherwydd yr oedi wrth gyflwyno mentoriaid allanol.

Dywedon nhw fod nifer sylweddol o athrawon newydd yn dal i aros am fentoriaid allanol chwe mis ers dechrau'r flwyddyn ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn recriwtio mentoriaid yn unol â'u canllawiau ymsefydlu.

Eisoes mae cadeirydd y corff, Angela Jardine, wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a'i rybuddio nad oes digon o staff profiadol i fod yn fentoriaid.

"Rydyn ni'n cefnogi amcan y gweinidog, hynny yw sicrhau cefnogaeth fentora gyson ar draws y wlad," meddai.

'Problemau mawr'

"Ac rydyn ni o blaid y rhaglen meistr.

"Ond mae'r ffaith fod y newidiadau wedi eu cyflwyno'n afresymol o gyflym wedi achosi problemau mawr.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu'n gyflym er mwyn gwarchod buddiannau cannoedd o athrawon newydd yn ystod eu blwyddyn ymsefydlu hollbwysig."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hawl gan bob athro sydd newydd gymhwyso ddilyn cyfnod ymsefydlu a chael mentor sydd yn yr ysgol.

"Hefyd byddan nhw ar eu hennill oherwydd cefnogaeth mentor allanol yn ystod cyfnod diweddarach y cyfnod ymsefydlu.

"Rydym yn eu recriwtio ar hyn o bryd ac maen nhw wedi eu dewis oherwydd proses drylwyr ... bydd recriwtio ar gyfer y rhaglen meistr a'r cyfnod ymsefydlu yn parhau fel y bydd digon ohonyn nhw."

Yn wreiddiol, roedd ysgolion yn cael eu hariannu er mwyn trefnu mentoriaid ond daeth y drefn i ben ym Medi 2012 cyn creu "pwll" canolog.

Y nod yw helpu athrawon sy'n dilyn y rhaglen Meistr mewn Ymarfer Addysgiadol.

Mae'r corff wedi honni nad yw 200 o athrawon newydd wedi cael mentoriaid ar gyfer eu blwyddyn ymsefydlu.

Mewn cyfarfod yn ddiweddar clywodd y corff ei bod hi'n anodd dod o hyd i 70 o fentoriaid ar gyfer y rhaglen meistr a bod angen recriwtio athrawon a darlithwyr oedd wedi ymddeol.

Bydd angen treblu nifer y mentoriaid o fewn dwy flynedd er mwyn cwrdd â'r galw.

'Yn gadael'

Yn y cyfarfod dywedodd Sion Amlyn, athro gwyddoniaeth yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog: "Rydan ni'n sôn am ddyfodol ein galwedigaeth felly mae angen datganiad cyhoeddus."

Dywedodd Helen O'Sullivan, Pennaeth Ysgol Gymunedol Tonypandy: "Mae'n bosib y bydd mwy o athrawon ifanc yn gadael oherwydd diffyg cefnogaeth."

Dywedodd David Evans, Ysgrifennydd Cymreig yr NUT: "Mae pwysau mawr ar athrawon sydd newydd gymhwyso.

"Mae'n hollbwysig bod cefnogaeth ar gael fel na fyddwn ni'n colli athrawon ardderchog.

"Y flwyddyn gynta' yw'r un fwya' anodd ac mae mentor yn allweddol er mwyn addasu at amgylchfyd newydd.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar hyn ar frys a chydweithio ag athrawon."