Leanne Wood: 'Addysg yn gwegian ym mynwent uchelgais'
- Cyhoeddwyd
Mae addysg Cymru yn gwegian ym "mynwent uchelgais" yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Wrth annerch ei phlaid yn y gynhadledd wanwyn, dywedodd bod dim esgus dros sefyllfa addysg yng Nghymru gan fod addysg wedi ei ddatganoli'n llawn.
Dywedodd bod plant yn sefyll arholiadau TGAU eleni sydd wedi eu haddysgu'n llwyr yn oes datganoli, a bod y llywodraeth wedi eu methu.
Mae agwedd Llywodraeth Cymru tuag at addysg yn "ddim llai na thrychineb llwyr" mynnodd.
Mwy o gyfleoedd
"Mae'n rhyfeddol mae addysg yw un o fethiannau Cymru heddiw, o ystyried ein bod ni unwaith yn gosod addysg uwchlaw popeth arall," meddai.
"Mynwent uchelgais yw system addysg Cymru bellach."
Dywedodd y byddai Plaid Cymru'n sefydlu rhaglen lythrennedd a rhifedd, gan dargedu bechgyn yn benodol, a defnyddio athrawon wedi ymddeol a gwirfoddolwyr i ymgymryd â'r gwaith.
Mae'r blaid am gynnig mwy o gyfleoedd galwedigaethol i bobl ifanc gael profi sawl crefft cyn penderfynu ar brentisiaeth neu gwrs coleg.
Rhyfeddodd nad oes un gweinidog addysg wedi colli ei swydd o ganlyniad i fethiannau'r system.
"Yn rhy aml, mae methiant wedi ei wobrwyo a dyrchafiad," meddai.
Ymgyrch etholiadol
Dywedodd Ms Wood bod ymgyrch Plaid Cymru ar gyfer etholiadau 2016 yn dechrau yn syth.
Anogodd yr aelodau i fod yn rhan o gynllun "miliwn o sgyrsiau" i gyfathrebu "neges bositif" Plaid Cymru i gael "dechrau newydd" i'r wlad.
"Mae rhaid i ni roi hwb i ein heconomi a chreu cymunedau sy'n ffit i wynebu heriau'r presennol a'r dyfodol.
"Mae rhaid i ni roi ein holl ymdrech mewn i greu swyddi. Gyda swyddi, daw hyder. Gyda hyder, mae popeth yn bosib."
Mae hi am wella sgiliau pobl ifanc i weithio ym myd technoleg wyrdd a thechnoleg yn gyffredinol - a sicrhau bod pob rhan o Gymru'n derbyn cyswllt band eang a 3G.
Er bod Ms Wood am fod yn bositif am beth all Cymru wneud, mae hi'n beio ideoleg llywodraeth San Steffan am sefyllfa economaidd wan Cymru, a hefyd ddiffyg gweithredu llywodraeth Lafur Cymru.
"Ddylem ni ddim gorfod cael ei dal mewn gwladwriaeth un blaid sy'n gwadu ei chyfrifoldeb," meddai.
Ond dywedodd bod rhaid gweithredu ar y sefyllfa bresennol.
"Beth bynnag yw'n hanes ni, rydym ni lle'r ydym ni. Gadewch i ni wneud y gorau o'r sefyllfa.
"Dim mwy o feio pawb arall - gadewch i ni gymryd y cyfrifoldeb o ddatrys y sefyllfa. Nawr."
Silk
Trafododd dystiolaeth y blaid i Gomisiwn Silk sy'n edrych ar sefyllfa datganoli ar hyn o bryd.
Mae'r blaid yn galw am ddatganoli'r system gyfreithiol, yr heddlu, darlledu, ynni a dŵr.
"Dylai'r cyfan fod yn nwylo Cymry," meddai.
"Trosglwyddwch y cyfrifoldeb nawr.
"Dim petruso, dim esgusodion, dim eithriad a dim oedi.
Wnaeth hi ddim osgoi annibyniaeth chwaith, gan fynnu mai dyna'r nod pendant.
"Ein gweledigaeth yw Cymru annibynnol; annibynnol mewn ysbryd ac mewn realiti, heb fod yn ddibynnol ar arian o Frwsel na Llundain, gwlad yn ffynnu nid ar gardod ond ar ein llwyddiant."
Y ffordd i wneud hynny, yn ôl Ms Wood yw lledaenu'r neges i wneud Plaid Cymru'n berthnasol i bobl Cymru.
Pynciau eraill
Hefyd yn cael eu trafod yn ystod diwrnod cyntaf y gynhadledd roedd trafodaethau ar gamau nesaf datganoli yng Nghymru, newidiadau llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r system fudd-dal a phwy ddylai fod yn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Yn ystod un o sesiynau trafod y bore ar y camau nesaf i ddatganoli, dywedodd arweinydd seneddol Plaid Cymru Elfyn Llwyd bod rhaid symud tuag at gyfundrefn gyfreithiol ar wahân, a hynny "rŵan".
Dywedodd y byddai cyfundrefn ar wahân yn arbed arian ac yn arwain at fwy o fuddsoddiad yng Nghymru, wrth i gwmnïau cyfreithwyr weld y gwerth o gael swyddfeydd yng Nghaerdydd.
Yn ôl Elfyn Llwyd, mae cyfundrefn yr Alban yn dangos bod modd gwneud y gwaith yn rhatach yn agosach at adref, ac y byddai'n gweithio'n well yng Nghymru heb ddylanwad "sŵn y papurau tabloid yn Lloegr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2013