Cynghorau Cymru'n anelu at arbedion o £145m drwy doriadau

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Carl Sargeant: Cynghorau'n wynebu 'cyfnod anodd iawn'.

Bydd cynghorau ar draws Cymru'n torri swyddi a gwasanaethau oherwydd diffyg ariannu o £145m y flwyddyn nesa'.

Mae angen i Gaerdydd a Phowys arbed £44m yn 2013-14 ac mae mwy na 400 o swyddi mewn perygl.

Yn y cyfamser, mae cynghorau eraill yn dweud eu bod yn wynebu "penderfyniadau anodd" gan fod toriadau'n bosib' yn adrannau casglu sbwriel, llyfrgelloedd a'r celfyddydau yn ogystal â grantiau i fudiadau cymunedol.

Dywedodd undeb Unsain fod y manylion yn "rhybudd am amgylchiadau anodd iawn" wrth i Lywodraeth Cymru ddweud bod cynghorau'n wynebu "cyfnod heriol".

Mae rhaglen y llywodraeth ganolog yn golygu llai o arian i Lywodraeth Cymru ac felly lai o arian i gynghorau.

Pan gafodd setliadau cynghorau eu cyhoeddi dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn well na'r hyn yr oedden ni'n ei ddisgwyl".

5%

Ond oherwydd yr angen i wneud arbedion mae Ynys Môn wedi codi treth y cyngor o 5% a Chaerdydd wedi rhewi'r dreth ac yn anelu at dorri swyddi.

Ar gyfartaledd yng Nghymru bydd treth y cyngor yn codi 2.9% sy'n cyfateb i dâl ychwanegol o £27 y flwyddyn.

Dywedodd Abertawe eu bod yn bwriadu delio â diffyg o £7.7m drwy gyflwyno ymddeoliadau cynnar a diswyddiadau gwirfoddol, codi treth y cyngor o 3.8% a defnyddio £2.2m o gronfeydd.

Mae Dominic MacAskill, trefnydd rhanbarthol Unsain, wedi dweud: "Gall codi treth y cyngor arbed rhywfaint ond dylai cynghorau ddefnyddio mwy o gronfeydd ...

"Bydd effeithiau'r toriadau'n fwy yn ystod y blynyddoedd nesa'."

Hyd yn hyn mae cynghorau wedi dweud y bydd gwasanaethau llinell flaen yn cael eu hamddiffyn ac mae'r rhan fwya'n gwneud arbedion effeithlonrwydd.

Protestiadau

Yng Nghasnewydd mae protestiadau wedi bod oherwydd bwriad i leihau neu ddileu ariannu ar gyfer mudiadau celfyddydol a cherdd oherwydd yr angen i arbed £12m.

"Dwi wedi bod yn y byd gwleidyddol am 40 mlynedd ond dwi ddim wedi gorfod gwneud dewisiadau fel y rhain," meddai arweinydd y cyngor, Bob Bright.

Eisoes mae Rhondda Cynon Taf wedi rhybuddio na fydd modd trefnu gwasanaeth casglu sbwriel wythnosol oherwydd "bwlch ariannu" o £9.6m a "phenderfyniadu anodd mewn meysydd eraill".

Yn Nhorfaen, lle mae angen arbedion o £7.2m, mae'r cyngor yn ystyried diswyddiadau gwirfoddol.

Yr wythnos ddiwetha' trafododd cynghorwyr yr angen i godi tâl cinio ysgol o 5c a chodi taliadau cartrefi preswyl a nyrsio.

Yng Ngheredigion, lle mae angen arbedion o £1.2m, mae'r cyngor yn ystyried newid rheoli toiledau cyhoeddus a gwaredu gwastraff.

Cogyddion

Wrth ymdrechu i arbed £4.4m, mae Bro Morgannwg yn defnyddio £1m o gronfeydd ac yn ystyried lleihau oriau cogyddion ysgolion cynradd a chodi treth y cyngor o 4.8%.

Dywedodd Sir Gaerfyrddin fod angen £3.9m o arbedion, gan gynnwys codi taliadau parcio, llai o gynnal a chadw ar wynebau ffyrdd.

Yn ystod y tair blynedd nesa, bydd Powys, lle mae 5,000 o staff llawn amser, yn wynebu gostyngiad o £30m yn eu cyllideb graidd.

Y sir hon gafodd godiad ariannu isa' Cymru ac mae mwy na 100 o swyddi mewn perygl.

Dywedodd Caerdydd eu bod yn ystyried torri 300 o swyddi.

Yn wreiddiol, roedd bwriad i gau Pwll Nofio'r Sblot, Canolfan Gymunedol Plasnewydd a nifer o glybiau bwlio ond byddan nhw'n aros yn agored wrth i'r cyngor chwilio am ffynonellau ariannu eraill.

Wrth i Gonwy anelu at arbedion o £5m, gallai swyddi gael eu torri a chynllun cefnogi lles disgyblion.

'Arbedion mewnol'

Mae Sir Fynwy, Sir y Fflint a Sir Ddinbych wedi dweud y bydd gwasanaethau llinell flaen yn cael eu hamddiffyn oherwydd "arbedion mewnol".

A dywedodd Caerffili, sy' angen arbedion o £5m, fod y sefyllfa'n "sefydlog" er gwaetha "cyfnod economaidd anodd".

Pan gyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, fanylion setliadau'r cynghorau roedd wedi rhybuddio y byddai'r cynghorau'n wynebu "cyfnod anodd iawn".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n hollbwysig bod cynghorau yn gallu wynebu'r cyfnod drwy gydweithredu.

"Mae ymroddiad i godi ariannu ar gyfer cynghorau o 1.5% y flwyddyn dros gyfnod o bedair blynedd.

"Ac mae'r setliad yn dangos ymroddiad Llywodraeth Cymru i ammdyffyn y rhai mwyaf bregus - ac amddiffyn ysgolion a gofal cymdeithasol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol