Pobl hŷn: Beth fydd y costau?
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn cael eu hannog i amlinellu cynlluniau fydd yn dangos faint y bydd rhaid i bobl oedrannus ei dalu am ofal cymdeithasol.
Bwriad Llywodraeth Prydain yw cyfyngu ar y costau yn Lloegr.
Elusen Age Cymru sy'n galw ar y llywodraeth i gyflwyno cynigion fyddai'n helpu pobl heb lawer o arian.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymgynghori'n eang ac y byddai datganiad cyn bo hir.
Yng Nghymru a Lloegr mae'r rhai â mwy na £23,250 o asedau'n gorfod talu am ofal ac mae beirniaid wedi honni bod y drefn yn gorfodi'r oedrannus i werthu eu tai er mwyn talu am y gofal.
£123,000
Yn Chwefror cyhoeddodd Llywodraeth Prydain y byddai'r trothwy'n codi i £123,000 yn Lloegr. Bydd y newid yn dod i rym yn Ebrill 2017.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n aros am ariannu ychwanegol ar sail fformiwla Barnett y Trysorlys.
Dywedodd Graeme Francis o'r elusen fod angen diwygio "ers amser hir".
"Mae cyfle i Lywodraeth Cymru ddilyn eu llwybr eu hunain," meddai.
Comisiwn Dilnot, argymhellodd gynigion i ddiwygio'r drefn yn Lloegr, awgrymodd y syniad o gyfyngu ar gostau ac roedd elusennau'n siomedig na ddilynodd Llywodraeth Prydain yr argymhelliad bod angen cyfyngiad o £35,000.
£84m
Deellir bod swyddogion wedi amcangyfri y byddai cyfyngiad o £35,000 yn golygu costau o £84m y flwyddyn i Lywodraeth Cymru.
Byddai hyn yn codi i £190m yn 2025-26.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi bod yn ymgynghori ers naw mis er mwyn asesu pa fath o drefn y byddai trwch y boblogaeth yn ei chefnogi ac a ddylai unrhyw newid fod ar sail cynigion Dilnot.
"Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n fuan a bydd gweinidog yn cyhoeddi datganiad am y mater pwysig hwn."