Triniaeth canser: Gwario £4.6m

  • Cyhoeddwyd
Triniaeth ganser (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, y bydd y cynllun yn datblygu gwasanaethau arloesol yng Nghymru

Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, yn cyhoeddi buddsoddi £4.6m ar dechnoleg ar gyfer triniaeth i gleifion canser yng Nghymru.

Bydd hyn yn golygu y bydd dyfais gyflymu llinellol yng Nghanolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd fydd yn darparu Ymbelydredd Stereotactig y Corff a Therapi Ymbelydredd sy'n Defnyddio Delweddau ac y bydd modd datblygu Gwasanaeth Radiolawfeddygaeth Stereotactig ar gyfer Cymru.

Yn ôl y llywodraeth, mae'n "dechnoleg o safon fydeang".

Mae Ymbelydredd Stereotactig y Corff yn lleihau difrod i feinweoedd ac, ar y cychwyn, bydd y ganolfan yn defnyddio'r cyfarpar i roi triniaeth i gleifion canser yr ysgyfaint.

Bydd y Gwasanaeth Radiolawfeddygaeth Stereotactig yn golygu targedu'n fanwl ychydig bach o ymbelydredd o ddos uchel, fel arfer yn y benglog.

Dywedodd y Gweinidog: "Mae datblygu'r dechnoleg yn golygu y bydd cleifion o Gymru'n cael triniaeth yn Felindre.

"Ar hyn o bryd mae tua 65 o gleifion yn mynd i Loegr i gael triniaeth Radiolawfeddygaeth Stereotactig a llai na 10 ar gyfer triniaeth Ymbelydredd Stereotactig y Corff.

'290 y flwyddyn'

"Mae'r ganolfan yn bwriadu rhoi triniaeth i 290 o gleifion y flwyddyn."

"Yn sicr, mae Ymbelydredd Stereotactig y Corff yn gwella cyfraddau goroesi a bydd mwy o gleifion o Gymru'n gallu cymryd rhan mewn treialon clinigol.

"Mae tystiolaeth yn awgrymu cysylltiad rhwng canolfannau sy'n cymryd rhan mewn treialon a safon gofal."

Dywedodd Dr Tom Crosby, cyfarwyddwr clinigol y ganolfan: "Mae hyn yn newyddion gwych ... mae technoleg o safon fydeang yn hollbwysig os ydyn ni am ddenu a chadw'r staff gorau.

"Ond yn bennaf oll, mae'n newyddion gwych i gleifion fydd yn cael triniaeth fydd yn fwy diogel, yn fwy effeithiol ac yn fwy cyfleus."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol