Datgelu taith baton Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow 2014

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines yn cyflwyno'r baton i Prathibha Devi Singh Patil, Arlywydd India, cyn y Gemau yn Delhi yn 2010a
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines yn cyflwyno'r baton i Prathibha Devi Singh Patil, Arlywydd India, cyn y Gemau yn Delhi yn 2010

Mae trefnwyr Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 wedi datgelu llwybr Taith Baton Y Frenhines ar draws y byd.

Fel rhan o'r dathliadau fe fydd y baton yn dod i Gymru wrth ymweld â 71 o wledydd mewn saith mis.

Map
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y baton yn ymweld a Chymru rhwng Mai 24 a 31 2014

Mae'r daith 190,000 cilomedr yn hirach na thaith y Fflam Olympaidd y llynedd.

Fe wnaed y cyhoeddiad ddydd Llun, 500 niwrnod cyn i'r Gemau gael eu cynnal rhwng Gorffennaf 23 ac Awst 3, 2014.

Does 'na ddim manylion wedi eu datgelu am y baton ei hun ond bydd yn gadael Palas Buckingham ar Hydref 9, 2013.

Ynddo y bydd neges gan bennaeth y Gymanwlad, Y Frenhines.

Fe fydd y baton yng Nghymru rhwng Mai 24 a 31, 2014.

Seremoni Agoriadol

Bydd yn ymweld â gwledydd a thiriogaethau'r Gymanwlad gan gychwyn yn India ar Hydref 11.

Bydd yn ymweld ag Awstralia, De Affrica, Canada a Jamaica yn ogystal â gwledydd llai fel Tuvalu a Nauru.

Yn ystod mis Mehefin fe fydd yn mynd ar daith o amgylch Yr Alban cyn i'r rhedwr olaf drosglwyddo'r baton i'r Frenhines yn y Seremoni Agoriadol.

Yno y bydd yn darllen y neges gudd ac yn agor y Gemau.

Cafodd y daith gyfnewid ei chyflwyno yn 1958 wrth i Gemau'r Ymerodraeth a Chymanwlad gael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Tuvalu ydi un o'r gwledydd lleia' i gystadlu
Disgrifiad o’r llun,

Tuvalu ydi un o'r gwledydd lleia' i gystadlu

Cyn 1988 dim ond drwy'r wlad oedd yn cynnal y Gemau a Lloegr y byddai'r daith yn mynd. Ond erbyn 2002, ym Manceinion, roedd yn teithio dros 100,000 cilomedr ac yn ymweld â degau o wledydd.

Yn 2006, pan gafodd y Gemau eu cynnal yn Melbourne, fe wnaeth y daith ymweld â phob un o'r 71 gwlad sy'n anfon cystadleuwyr.

Fe fydd 4,500 o athletwyr yn cystadlu am 261 o fedalau mewn 17 camp yn y Gemau yn 2014.

Fe fyddan nhw'n cael eu cynnal mewn 14 lleoliad o amgylch Glasgow ac yn ehangach.

Ymhlith y lleoliadau mae Stadiwm Hampden yn Glasgow, fydd yn llwyfanu'r cystadlaethau athletau ac arena Emirates, fydd yn gartref ar gyfer y badminton a bydd Velodrome Sir Chris Hoy yn cynnal y seiclo.

Y tu allan i'r ddinas fe fydd y Pwll Cymanwlad Brenhinol yng Nghaeredin yn gartref ar gyfer y deifio, gyda Chanolfan Barry Buddon yn Angus yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y saethu.

Fe fydd y seremoni agoriadol ym Mharc Celtic.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol