Protest i gofio am drychineb niwclear Fukushima ddwy flynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr ger Pont y Borth ddydd Llun
Disgrifiad o’r llun,

Mae mudiad PAWB yn dweud ei bod yn hollbwysig cofio am drychinebau fel Fukushima wrth drafod codi atomfa newydd yn Wylfa

Cafodd protest ei chynnal ger Ynys Môn ddydd Llun i nodi dwy flynedd ers trychineb Fukushima yn Japan.

Roedd hyd at 20 o bobl wedi dod at Bont Menai i ddangos eu gwrthwynebiad i gael atomfa niwclear arall ar yr ynys.

Cafodd y brotest ei threfnu gan fudiad Pobl Atal Wylfa B (PAWB) a'r pwrpas, yn ôl y mudiad, oedd "dangos bod argyfwng Fukushima yn parhau, a thanlinellu peryglon ynni niwclear i ddynoliaeth a'r amgylchedd."

Roedd dros 18,000 o bobl wedi cael eu lladd neu wedi mynd ar goll wedi tswnami a daeargryn enfawr yn Japan ar Fawrth 11, 2011.

Disgrifiad,

Aled Hughes fu'n holi Dylan Morgan o PAWB yn y brotest ddydd Llun

Roedd y digwyddiad hefyd wedi taro gorsaf niwclear Fukushima.

Ers hynny, mae'r rhan fwyaf o adweithyddion niwclear Japan wedi cael eu diffodd ac mae yna drafodaeth eang ar ynni niwclear yn y wlad.

'Effaith am flynyddoedd'

Ym mis Tachwedd, cadarnhawyd fod cwmni Hitachi, o Japan, wedi cwblhau cytundeb i brynu cynllun niwclear Horizon, sy'n cynnwys codi atomfa newydd yn Wylfa.

Roedd y cynllun yn cael ei werthu gan gwmnïau RWE ac E.ON o'r Almaen.

Dywedodd Dylan Morgan ar ran mudiad PAWB ei bod yn hollbwysig cofio am drychinebau fel Fukushima wrth drafod codi adweithydd newydd.

"Pam mae rhywbeth difrifol yn digwydd mewn gorsaf niwclear, damwain fel hyn, mae'r effaith i'w deimlo am flynyddoedd ac megis dechrau maen nhw efo'r gwaith o wneud y safle yn ddiogel," meddai.

"Y peth pwysig ydy bod 'na bresenoldeb yma a bod ni'n atgoffa pobl o'r drychineb ofnadwy sydd wedi digwydd yn Fukushima a hefyd yn Chernobyl, achos mae effaith y trychinebau yma'n dal i gael ei deimlo, a hynny am flynyddoedd maith i ddod."