Cwest milwr: Rheithfarn o ladd anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
Michael MaguireFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Michael Maguire: Bwled grwydr darodd ei ben.

Mae rheithfarn o ladd anghyfreithlon wedi ei chofnodi yng nghwest milwr o Iwerddon gafodd ei saethu yn ei ben wrth hyfforddi yn Sir Benfro.

Mis Mai 2012 fe gafodd Michael Maguire, oedd yn 21 oed ac yn aelod o Fataliwn Cyntaf y Gatrawd Frenhinol Wyddelig, ei saethu mewn ardal "diogel" o safle'r fyddin yng Nghastellmartin yn Sir Benfro.

Clywodd y cwest yng Nghaerdydd ei fod wedi cael ei ladd wedi i beiriant saethu danio 0.6 milltir (un cilometr) i ffwrdd.

Bwled grwydr darodd ei ben.

'Sefyllfa beryglus'

Dywedodd arbenigwr arfau'r fyddin wrth y cwest nad oedd milwr oedd yn anelu at darged wedi saethu at y môr oherwydd methiannau diogelwch.

Clywodd y cwest hefyd y gallai pobl ar draeth Freshwater West 1.6 milltir (2.5 cilometr) i ffwrdd o'r parth saethu fod wedi bod mewn perygl y diwrnod y cafodd Mr Maguire ei ladd.

Roedd o mewn cae lle'r oedd milwyr yn arfer bwyta tua hanner milltir i ffwrdd o'r parth saethu pan gafodd ei ladd.

Doedd Mr Maguire, a ddaeth o Sir Corc, ddim yn gwisgo helmed.

Clywodd y cwest bod milwyr eraill hefyd wedi bod mewn perygl o gael eu saethu.

Dywedodd y Capten Gary Palmer, fu'n rhan o'r ymchwiliad wedi marwolaeth Mr Maguire, wrth y cwest fod milwyr wedi saethu y tu allan i'r ardaloedd diogel penodedig ar y maes tanio.

"Ddylai'r targedau ddim wedi cael eu gosod i'r gorllewin ac i'r gogledd," meddai.

"Roeddent mewn sefyllfa beryglus."

Ar ôl y cwest, dywedodd llefarydd ar ran Y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Rydym yn meddwl am deulu Michael Maguire a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Fe fyddwn yn ystyried sylwadau'r crwner i sicrhau y byddwn ni'n gwneud yr holl newidiadau sydd eu hangen i atal damwain fel hyn ddigwydd eto.

"Nid yw'n addas i ni ddweud mwy oherwydd bod ymchwiliadau i farwolaeth Michael Maguire yn dal yn parhau."

Dysgu gwersi

Wedi'r cwest hefyd cafodd datganiad ar ran teulu Mr Maguire ei gyhoeddi.

Dywed eu bod yn gobeithio y byddai'r ymchwiliadau sy'n parhau yn rhoi atebion i'r materion hynny nad oedd y cwest yn gallu cyfeirio atyn nhw.

Maen nhw am i wersi gael eu dysgu wedi ei farwolaeth.

Bydd cynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cyfarfod ag aelodau o'r Weinyddiaeth Amddiffyn ddydd Mercher.

Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Prif Weithredwr y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones:

"Mae Castellmartin wedi ei ddefnyddio fel maes tanio ers diwedd y tridegau, a dros y cyfnod yna, mae yna ddulliau gweithredu wedi eu datblygu sydd yn sicrhau diogelwch...

"Dwi'n credu bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymchwilio, ac angen ymchwilio, i pam na ddilynwyd y canllawiau yn yr achos yma, ond dwi ddim yn credu yn gyffredinol bod yna berygl o gwbl i ddefnyddwyr yn yr ardal."