Oedi mewn cynlluniau £230m i adfywio Glannau'r Barri

  • Cyhoeddwyd
Glannau'r Barri
Disgrifiad o’r llun,

Gallai 'materion technegol' olygu oedi yn y gwaith hyd at 12 mis yn ôl y consortiwm

Fydd oedi o hyd at 12 mis ar gynlluniau gwerth £230 miliwn i adfywio ardal Glannau'r Barri ddim yn cael effaith ar gynlluniau ehangach ar gyfer y dref yn ôl ymgynghorwr.

Fe wnaeth Cyngor Bro Morgannwg gymeradwyo cynlluniau ar gyfer cartrefi, caffis, gwesty a ffordd gyswllt newydd ym mis Gorffennaf 2011.

Yn ôl Consortiwm Glannau'r Barri, sy'n gyfrifol am y prosiect, mae 'na oedi o ganlyniad i "faterion technegol".

Dywedodd Paul Hayley, o 'Balchder yn y Barri', bod y Glannau yn un elfen o'r rhaglen.

Mae'r cynllun yn cynnwys amrywiaeth o dai preifat a thai fforddiadwy yn ogystal ag ardal chwarae i blant ac ardaloedd agored.

Y bwriad yw cysylltu'r dref gyda'r atyniad twristiaeth Ynys Y Barri - a ddaeth i amlygrwydd yn sgil y gyfres gomedi Gavin a Stacey - yn ogystal ag adfywio ardal y glannau.

'Cydweithio'

Consortiwm o ddatblygwyr - Taylor Wimpey UK, Persimmon Homes a BDW Trading (Barratt South Wales) - wnaeth gyflwyno'r cynlluniau ym mis Awst 2009.

"Roedd paratoi Glannau'r Barri ar gyfer datblygiad yn y dyfodol yn mynd i fod yn her," meddai llefarydd.

"Mae'n gwaith ymchwil wedi codi materion technegol a allai olygu oedi ar y rhan yma o'r prosiect all fod rhwng 6 a 12 mis.

"Rydym yn parhau i gydweithio'n agos gyda thîm y prosiect er mwyn lleihau unrhyw oedi ac rydym yn ymroddedig i gyflwyno'r rhan gyntaf o'r ffordd gyswllt, archfarchnad Asda a rhan gyntaf y tai mor fuan â phosib."

Ond dywedodd Mr Hayley, sy'n cadeirio grŵp Balchder yn y Barri a chyn-lywydd siambr fasnach y dref, bod peth oedi i'w ddisgwyl.

"Mae 'na beth oedi technegol i waith sydd angen ei wneud ar y safle, ond mae disgwyl hynny wrth gymryd drosodd safle fel yr hen borthladd lo.

"Oedi bychan yw hwn sydd ddim pryder gwirioneddol gan fod 'na gymaint o elfennau i'r prosiect."

Trafod cyson

Dywedodd Rob Thomas, cyfarwyddwr gwasanaethau datblygu Cyngor Bro Morgannwg eu bod yn ymwybodol bod y consortiwm yn delio gyda materion a fydd yn cael effaith ar yr amserlen.

"Dydi'r math yma o sefyllfa ddim yn anarferol ar brosiect mor enfawr.

"Mae'r cyngor mewn trafodaethau cyson gyda phawb ac ar gael i gynorthwyo lle bo angen."

Ers 2010, mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi £6.5 miliwn tuag at 35 o brosiectau yn Y Barri.

Ym mis Chwefror fe gyhoeddwyd £692,000 i drawsnewid hen safle Butlin's ar Ynys Y Barri.

Fe wnaeth y safle gwyliau gau 17 mlynedd yn ôl a bydd yn cael ei addasu'n ganolfan gymunedol.

Ym mis Ionawr fe wnaeth Grŵp Barri'n Gyntaf alw am gyflymu'r gwaith o greu ffordd gyswllt o'r dref i'r glannau ar ôl iddi ddod i'r amlwg na fydd yn barod am bum mlynedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol