M4: Un person wedi marw wedi damwain yn Nhwneli Brynglas

  • Cyhoeddwyd
Tagfeydd ar yr M4 bore Gwener rhwng cyffordd 28 a 29Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tagfeydd ar yr M4 bore Gwener rhwng cyffordd 28 a 29

Mae un person wedi marw wedi damwain ddifrifol ar yr M4 yn gynnar bore Gwener.

Mae 'na hyd at bum milltir o dagfeydd ar y draffordd o ganlyniad i'r ddamwain yn Nhwneli Brynglas.

Yn ôl Heddlu Gwent fe ddigwyddodd y ddamwain tua 3am ddydd Gwener.

Fe wnaeth car Peugeot 308 wrthdaro gyda wal ac is-orsaf drydanol.

Cafodd dyn 67 oed o ardal Caerdydd ei ryddhau o'r cerbyd ond roedd wedi marw.

Bu'r lôn ddwyreiniol ar gau am bron i chwe awr rhwng cyffordd 28 (Parc Tredegar) a Chyffordd 25A (Casnewydd) wrth i'r gwaith o symud y car ac archwilio strwythur y twnel gael ei wneud.

Mae disgwyl y bydd y traffig yn drwm yn yr ardal am beth amser eto.

Cafodd y traffig ei ddargyfeirio ar hyd yr A48 o Gyffordd 28 dros y bont yng Nghasnewydd i ail ymuno â'r draffordd yng Nghyffordd 24.

Mae traffig yn brysurach na'r arfer ar yr A48 o ganlyniad i'r dargyfeiriad hefyd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol