M4: Heddlu Gwent yn apelio am dystion wedi damwain angheuol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth a thystion i ddamwain angheuol ar yr M4.
Bu farw dyn 67 oed o ardal Caerdydd wedi'r ddamwain tua 3am bore Gwener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger mynedfa twneli Brynglas ar y lon ddwyreiniol.
Fe wnaeth y car Peugeot 208 llwyd tywyll daro wal ac is-orsaf drydanol.
Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Yn ôl yr heddlu mae lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos nifer o gerbydau yn aros wedi'r ddamwain.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad gyda'r bobl yma.
Tagfeydd
Ymhlith y cerbydau yr oedd 'na lori ac fe wnaeth un person ddod allan o sedd y teithiwr mewn car arall a cherdded draw at y Peugeot.
Ar un cyfnod roedd 'na dagfeydd o hyd at bum milltir ar y draffordd.
Bu'r lôn ddwyreiniol ar gau am bron i chwe awr rhwng cyffordd 28 (Parc Tredegar) a Chyffordd 25A (Casnewydd) wrth i'r gwaith o symud y car ac archwilio strwythur y twnel gael ei wneud.
Cafodd y traffig ei ddargyfeirio ar hyd yr A48 o Gyffordd 28 dros y bont yng Nghasnewydd i ail ymuno â'r draffordd yng Nghyffordd 24.
Mae traffig yn brysurach na'r arfer ar yr A48 o ganlyniad i'r dargyfeiriad hefyd.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw ffonio Heddlu Gwent ar 01633 642404.