Pryder am linell gymorth
- Cyhoeddwyd
Mae angen "diffodd" llinell gymorth Galw Iechyd Cymru ar adegau oherwydd bod y nyrsys sy'n ateb y galwadau yn gorfod ateb galwadau 999, yn ôl undeb Unsain.
Daw honiad yr Undeb wrth iddynt wrth gyflwyno tystiolaeth i arolwg o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru - y corff sy'n gyfrifol am Galw Iechyd Cymru.
Daeth tystiolaeth yr Undeb i ddwylo BBC Cymru a rhaglen Eye on Wales, Radio Wales.
Dywed Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru nad ydynt yn gallu gwneud sylw ar honiadau Unsain tra bod yr arolwg yn parhau i gael ei gynnal.
Galwadau 999
Ychwanegodd llefarydd fod modd i gleifion gael gafael ar wasanaeth Galw Iechyd Cymru 24 awr y dydd.
Daw honiadau Unsian wrth i'r Gwasanaeth Iechyd son am gynnydd aruthrol yn nifer y bobl sy'n ceisio mynd i'r ysbyty.
Yn ddiweddar bu son am griwiau ambiwlans yn gorfod aros eu tro y tu allan i unedau brys led led Cymru.
Mae llywodraeth Cymru wedi galw ar bobl i oedi ac ystyried cyn galw 999 er mwyn ceisio mynd i unedau bys.
Gwasanaeth sy'n cynnig cynghorion ar faterion iechyd am 24 awr y dydd yw gwasanaeth Galw Iechyd Cymru.
Ers Ebrill 2007 mae wedi dod o dan reolaeth Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru.
Mae nyrsys sy'n gweithio i Galw Iechyd Cymru hefyd yn delio gyda rhai o alwadau 999, sydd yn y categori llai difrifol - categori C.
Fel rheol mae'r rhain yn alwadau sy'n ymwneud a man anafiadau, neu symptomau ffliw - achosion nad sydd angen ambiwlans ar frys.
Mae gofyn i Gwasanaeth Ambiwlansus Cymru ymateb i alwadau categori C o fewn 30 munud.
Dywed Unsain unwaith i alwadau o'r fath gael eu trosglwyddo i wasanaeth Galw Iechyd Cymru, yna maent yn cael eu blaenoriaethau o flaen galwadau eraill.
Ar adegau prysur, honnai'r undeb y gallai pobl sy'n disgwyl galwadau yn ôl gan wasanaeth Galw Iechyd Cymru aros yn hirach na'r arfer.
Honnir hefyd fod rhai yn cael neges yn eu cynghori fod y gwasanaeth yn hynod brysur ac i alw yn ddiweddarach neu wynebu cryn oedi.
Dywed Darron Dupre, swyddog gydag undeb Unsain, nad yw pobl sy'n ffonio Galw Iechyd Cymru yn cael y gwasanaeth maen nhw ei ddisgwyl ar rai adegau.
"Pe bai pobl yn methu a chysylltu â'r gwasanaeth oherwydd bod staff yn ymdrin â materion eraill, mae'n golygu y bydd pobl y teithio i unedau brys gan achosi pob math o broblemau eraill."
Dywedodd llefarydd ar ran ymddiriedolaeth fod y gwasanaeth y rhoi blaenoriaeth yn ôl gofynion clinigol y cleifion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013