Adran achosion brys newydd i Ysbyty Bronglais
- Cyhoeddwyd
Mae Adran Damweiniau ac Achosion Brys newydd Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth yn agor ddydd Gwener.
Mae'n rhan o ddatblygiad sy'n costio £38 miliwn ac a fydd hefyd yn cynnwys uned famolaeth newydd ymhlith gwasanaethau eraill.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda y nod yw i gleifion allu cael triniaeth yn fwy sydyn.
Mae'r adran damweiniau ac achosion brys wedi symud i lawr gwaelod yr adeilad newydd fydd hefyd yn cynnwys Uned Lawfeddygaeth.
Pedwar ambiwlans
Bydd yr uned hon yn cynnwys dwy theatr ar gyfer achosion dydd, uned lawfeddygol newydd ar gyfer achosion dydd a'r Uned Famolaeth newydd, fydd yn cynnwys adleoli clinigau cyn-enedigol a phlant.
Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys ailwampio'r brif uned theatr.
Dywedodd Jeremy Brown, cyfarwyddwr y bwrdd ar gyfer Ceredigion: "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i bobl Ceredigion ac fe fydd yn ein helpu i ddarparu gofal iechyd safon byd ar eu cyfer."
Daw'r agoriad dridiau wedi i'r bwrdd ymddiheuro ar ôl i nifer o ambiwlansys orfod aros y tu allan i'r ysbyty ddydd Mawrth.
Bu'n rhaid i gleifion gael eu hasesu gan feddygon yn yr ambiwlansys y tu allan i adran damweiniau ac achosion brys yr ysbyty.
Roedd pedwar ambiwlans yn aros y tu allan i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth tua 2pm brynhawn dydd Mawrth.
Dywedodd un gyrrwr ambiwlans ei fod wedi bod y tu allan i'r ysbyty ers 10.15am.
Dywedodd Llywodraeth Cymru'r wythnos hon fod adrannau brys ar draws y wlad yn wynebu cynnydd enfawr yn y galw, gyda rhai ysbytai yn trin mwy o gleifion nag erioed o'r blaen.
Maen nhw wedi annog y cyhoedd i feddwl yn ofalus cyn deialu 999.
Dydd Llun roedd dros 300 o gleifion yn cael eu gweld yn yr adran frys yn Ysbyty Treforys ger Abertawe, ac roedd galw i fyny tua 25% yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gyda llawer o'r achosion angen gofal arbenigol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013