Athrawon yn bwriadu streicio

  • Cyhoeddwyd

Mae undebau wedi dweud y bydd athrawon yng Nghymru a Lloegr yn streicio yn nhymor yr haf oherwydd anghydfod am gyflog, pensiwn a phwysau gwaith.

Ers misoedd mae athrawon wedi bod yn gweithredu ond ddim wedi bod ar streic.

Dywedodd undeb yr NUT a'r NASUWT y byddai streiciau lleol yn dechrau yng ngogledd-orllewin Lloegr ar Fehefin 27.

Mae'r Adran Addysg wedi dweud eu bod yn "siomedig iawn".

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr NASUWT Chris Keates: "Mae'n bryd i'r Ysgrifennydd Addysg wrando ar bryderon athrawon.

'Ymosod'

"Yn annoeth, mae wedi ymosod yn ddidrugaredd ar yr alwedigaeth ... ond mae digon o amser iddo osgoi gweithredu diwydiannol wrth ymateb yn bositif ac yn gyflym i'n dadleuon rhesymol."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg: "Dim ond llai na chwarter athrawon bleidleisiodd o blaid hyn.

"Bydd gweithredu diwydiannol yn amharu ar addysg plant, yn creu anghyfleustra i rieni ac yn amharu ar yr alwedigaeth yng ngolwg y cyhoedd - ar adeg pan mae ein diwygio'n golygu safonau uwch.

"Mae ysgolion yn gwobrwyo perfformiad da yn decach na'r trefniadau presennol lle mae'r rhan fwyaf o athrawon yn cael codiad cyflog yn otomatig bob blwyddyn.

"Yn aml, rydym wedi trafod â'r ddau undeb a byddwn yn dal i wneud hynny."