Dadlwytho: Angen talu £213,500
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod dyn busnes oedd yn rhedeg un o'r tomenni sbwriel anghyfreithlon mwyaf yn y gogledd wedi gwneud elw o filiynau o bunnoedd.
Fe fydd rhaid i William O'Grady o Gaernarfon dalu £213,500 o fewn chwe mis neu wynebu dwy flynedd o garchar.
Dywedodd barnwr mewn gwrandawiad elw troseddau yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi ennill £8 miliwn yn sgil y troseddau ond dim ond ychydig o'r arian fyddai'n cael ei adennill.
Honnodd yr erlynwyr, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, fod y diffynnydd wedi gwneud elw troseddol o fwy na £44 miliwn.
£50m
Clywodd y llys fod dros £50m wedi mynd i'w gyfrifon banc dros gyfnod o chwe blynedd ond bod y rhan fwyaf o'r arian yna bellach wedi diflannu.
Roedd yr achos yn ymwneud â dadlwytho gwastraff mewn tri lleoliad yng nghyffiniau Caernarfon.
Honnwyd bod 29,000 o dunelli o wastraff y diwydiant adeiladu wedi cael eu dadlwytho'n anghyfreithlon yn safle Bryn Awelon ac yn safle ger cartref O'Grady yn Nhyddyn Whisgin, Caeathro.
Clywodd y gwrandawiad fod tua 1,500 o dunelli o wastraff wedi eu dadlwytho ar dir ger Y Foryd, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Cafodd 27,500 o dunelli o wastraff eu dadlwytho ger Tyddyn Whisgin yn 2008.
Roedd y gwastraff yn cynnwys briciau, plastig, pren, gwydr a phlastr.
Yn Llys y Goron Caer yn Rhagfyr 2011 cafwyd O'Grady a'i ddau gwmni - W M O'Grady (Haulage and Plant Hire) a Gwynedd Skip Hire (Caernarfon) - yn euog o 12 cyhuddiad o ddadlwytho gwastraff cymysg yn anghyfreithlon ym Mryn Awelon a Thyddyn Whisgin.
Gwahardd
Cafwyd O'Grady a Gwynedd Skip Hire Limited yn euog o bum cyhuddiad o ddadlwytho gwastraff yn Fferm Bryn ac yn euog o droseddau dyletswydd gofal.
Cafodd ddedfryd o 12 mis o garchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd ac fe fu'n rhaid iddo gyflawni 300 awr o waith yn ddi-dâl.
Fe'i gwaharddwyd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am bum mlynedd.
Ddydd Llun clywodd y gwrandawiad fod O'Grady yn dal i wadu ei fod yn euog o'r troseddau.
Bydd rhaid i O'Grady dalu iawndal o oddeutu £62,600 i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Bydd yr iawndal yn talu am fonitro safle Tyddyn Whisgin am ddwy flynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2011