Busnes yn ffynnu mewn cyfnod anodd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Abertawe yn dweud eu bod yn mynd o nerth i nerth ar ôl sicrhau cytundeb i wneud gwaith ar long cwmni fferi P&O.
Doedd Swansea Drydocks heb ddechrau atgyweirio llongau yn hen ddociau Tywysog Cymru tan yn gynnar y llynedd, ond ers hynny maen nhw wedi cynyddu'r gweithlu o 10 i 50, ac yn chwilio am 25 o weithwyr eraill ar gyfer cytundeb P&O.
Dywedodd Ian Lloyd-Owen o'r cwmni eu bod wedi buddsoddi £5 miliwn yn y safle, ond yn gobeithio gweld trosiant o rwng £25m a £30m o fewn pum mlynedd.
Y llynedd fe wnaeth y cwmni atgyweirio naw o longau, ac eleni eisoes maen nhw wedi gweithio ar chwech arall, ac yn gobeithio gweithio ar 25 o longau cyn diwedd y flwyddyn.
Bu'r dociau sych ar gau am bron i ddegawd cyn i gwmni Harris Pye ailagor y safle yn 2009 i wneud gwaith ar long bleser cwmni SAGA.
Pan fethodd eu hymgais nhw i ddatblygu'r doc, agorwyd y drws i gwmni Swansea Drydocks a dreuliodd flwyddyn yn datblygu'r safle cyn ailagor y doc yn Ionawr 2012.
Mae'r safle yn un o ddau ddoc sych sydd ar ôl yng Nghymru, gyda'r un arall llawer llai yn Aberdaugleddau.
Mae'r cwmni o Abertawe yn cystadlu am waith gyda safleoedd eraill yn Falmouth, Cilgwri a Belffast.