Cynllun gwyddoniaeth £100m yn dechrau
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun gwerth £100 miliwn i helpu hybu cwmnïau meddygol a fferyllol yng Nghymru wedi dechrau'n swyddogol.
Llywodraeth Cymru sy'n cyfrannu hanner yr arian at gronfa Bio Cymru 2012, gyda chwmni dan ofal y gwyddonydd Syr Chris Evans yn gyfrifol am godi'r gweddill.
Mae gweinidogion yn gobeithio y bydd yn hybu twf, creu swyddi a chodi proffil Cymru'n rhyngwladol fel canolfan ar gyfer gwyddorau bywyd, sef astudiaeth o organebau byw.
Yn ôl y llywodraeth, mae gwyddorau bywyd ac iechyd yn flaenoriaeth ym maes ymchwil o fewn ei strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru.
Nod y gronfa, meddai, yw sicrhau bod busnesau gwyddorau bywyd yn gallu sefydlu a ffynnu yng Nghymru.
Mae'r sector eisoes werth £1.3 biliwn i economi Cymru, ac yn cyflogi dros 15,000 o bobl drwy'r wlad.
'Gwobrau anferth'
Mae gweinidogion eisoes wedi sôn am eu hawydd i ddenu mwy o bobl i ymchwilio i'r maes yng Nghymru.
Dywedodd Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart: "Mae gan Gymru fanteision mawr ym maes gwyddorau bywyd ac rydym yn benderfynol o fwrw 'mlaen yn syth i ddenu buddsoddwyr yma.
"Mae busnesau Gwyddorau Bywyd yn gallu tyfu'n gyflym iawn mewn marchnad fyd-eang ac rydym yn gwybod fod 'na wobrau anferth i rai sy'n llwyddo.
"Gall nifer fechan o fusnesau llwyddiannus ddod â gwerth economaidd mawr i Gymru o'i gymharu â sectorau eraill."
Gyda'i phencadlys yng Nghaerdydd, bydd y gronfa'n cael ei gweinyddu gan gwmni Arthurian Life Sciences, dan gadeiryddiaeth Syr Chris Evans, yn enedigol o Bort Talbot.
Mae wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel cadeirydd panel gwyddorau bywyd, sy'n cynghori gweinidogion ar y diwydiant.
Enillodd Arthurian y cytundeb i weinyddu'r gronfa ar ôl ymrwymo i godi £50 miliwn tuag at y prosiect.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2012